Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Asesiad Semester | 1. Cyflwyno cynnig ar bapur ac ar lafar ar gyfer rhaglen o'r genre ffeithiol. Dylid anelu'r rhaglen naill ai at BBC Radio Cymru neu Radio Wales. Yn ogystal a chyflwyniad ysgrifenedig, bydd disgwyl hefyd ichi gyflwyno'r syniad ar lafar i'ch tiwtor. Ar ol gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol, fe fyddwch yn cyflwyno eich syniad gerbron cynrychiolydd o'r diwydiant ac fe gaiff eich perfformiad ei asesu. | 10% |
Asesiad Semester | 2. Yn seiliedig ar Aseiniad 1, cynhyrchu'r rhaglen unigol, hyd at 30' o hyd (ac oddi mewn i gyllideb benodedig). Dylid cyflwyno'r rhaglen derfynol ar CD. | 60% |
Asesiad Semester | 3. Cyflwyno dogfennau atodol ar ffurf portffolio cynhyrchu sy'n cynnwys y cynnig gwreiddiol, dadansoddiad o'r dewis o gyflwynydd, manylion am newidiadau yn ystod y broses gynhyrchu a'r rhesymau drostynt, y gyllideb, yr amserlen cynhyrchu, y nodiadau ymchwil i gyd a'r ffynonellau gwahanol gan gynnwys rhifau cyswllt a chyfeiriadau ebost, manyion pob cyfranwr, brasluniau o strwythur y rhaglen wrth iddi ddatblygu, strwythur y rhaglen derfynol, rhestr a hyd yr effeithiau sain a'r gerddoriaeth gan gynnwys hawlfraint cerddoriaeth nad sy'n dod o dan gytundeb cyffredinol y BBC, pob caniatad arall a gafwyd, tystiolaeth bod y rhaglen yn cadw at ganllawiau'r BBC, ffurflen asesu iechyd a diogelwch, trefn derfynol y rhaglen, manylion a chynnwys y cyfarfodydd gyda'r cyflwynydd a'r cyfranwr ac unrhyw gyngor golygyddol a roddwyn, nodiadau recordio a golygu, yr holl waith papur sydd ynglwm a throsglwyddo'r rhaglen derfynol i'r darlledwr. | 20% |
Asesiad Semester | 4. Gwerthusiad Beirniadol : 2000 o eiriau. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Lle bo angen, bydd aseiniad ail-eistedd yn dilyn yr un strwythur ond fe fydd y testun neu'r strwythur creadigol yn newid. | |
|