Cod y Modiwl GC22010  
Teitl y Modiwl GWYDDELEG CANOL A GWYDDELEG MODERN CYNNAR (IAITH A LLÊN)1+2  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Simon Rodway  
Semester Semester 2  
Rhagofynion Gwyddeleg Lefel 1  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Hours.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  75%
Asesiad Semester Traethodau: Traethawd/Ymarferion  25%

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:

1. Byddwch yn gallu darllen chwedl Wyddeleg a ddewiswyd o'r cyfnod 1000 - 1300, neu, yn achos testunau hwy, ddarnau dethol o'r chwedl.

2. Byddwch yn gwybod sut i ddadansoddi iaith y chwedl yn ôl dosbarthiadau gramadegol ffurfiau a brawddegau Gwyddeleg Canol.

3. Byddwch yn gwybod am rai o'r newidiadau ieithyddol mawr a arweiniodd o'r Hen Wyddeleg i Wyddeleg Canol, ac o Wyddeleg Canol i Wyddeleg Diweddar.

4. Byddwch yn deall deunydd llenyddol y chwedl, a'i swyddogaeth yn y gymdeithas oedd ohoni yn y cyfnod dan sylw.

5. Byddwch yn gyfarwydd â chyd-destun y chwedl yn hanes llenyddiaeth Wyddeleg.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i brif nodweddion yr iaith ar ôl 900 OC. Gwaith ieithyddol ar destunau gosod difyr wedi'u cyflwyno yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC