Cod y Modiwl GF32900  
Teitl y Modiwl ECWITI A CHYFRAITH YMDDIRIEDAU  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Catrin F Huws  
Semester Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   30 awr o ddarlithoedd yn Saesneg  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 awr o seminarau yn Gymraeg  

Disgrifiad cryno

Canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno
Rhaid i fyfyrwyr astudio ecwiti a Chyfraith Ymddiriedau er mwyn cael eu hesgusodi o arholiadau Rhan I y Gyfraith Gymdeithas a'r Bar. Sefydlir ymddiriedau [ymddiriedolaethau] am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchenogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'r fwriadol ac fel arfer ar ol cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'r ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod cael hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'r deillio ohono. Bydd hyn yn digwydd pan fydd apel yn cael ei sefydlu yn sgil trychineb, megis y tan yn stadiwm pel droed Dinas Bradford, pan suddodd fferi Zeebrugge, neu ar ol y gollyngiad olew oddi ar Ynysoedd Shetland. Yn dilyn llofruddiaeth y bachgen bach, Jamie Bulger, yn Lerpwl, sefydlwyd apel i helpu'r teulu ddod dros y drychineb ac er budd y gymuned leol. Bu pobl wrthi'r anfon arian am ddiwrnodau lawer, a bu'r rhaid i gyfreithwyr gael hyd i ffordd o'r drafod a'r ddefnyddio i ddibenion penodol. Ffurfiwyd ymddiriedolaeth i'r diben hwn. Bydd rhai o'r apeliadau hyn yn cael statws elusennol, ond ceir llawer un na fyddant yn cael y statws hwnnw. Mae'r modiwl hwn yn edrych ar ddiffiniad elusen a'r holl anghysonderau yn y gyfraith. Er enghraifft, pam y bydd statws elusennol yn aml yn cael ei wrthod i gronfeydd trychinebau; pam y bu i gronfa er hyrwyddo ysgrifennu Joanna Southcote, dynes a gredai ei bod wedi'r beichiogi gan yr ysbryd glan, dderbyn statws elusennol oherwydd ei bod at hyrwyddo crefydd, ond nid cronfa er budd urdd lleianod caeedig Catholig? Pam bod ymddiriedau at ddibenion hynod ecsentrig wedi'r cynnal pryd na all fod yr undyn byw a fyddai'r elwa ohonynt? Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol. Dylai myfyrwyr sy'r cymryd Ecwiti ac Ymddiriedau eisoes fod wedi astudio Cyfraith Tir neu dylent fod yn cymryd y cwrs hwnnw ar yr un pryd. Mae'r adeiladu ar y sgiliau a geir mewn cyfraith tir, ond hefyd yn eu hatgyfnerthu a'r hymestyn.

Nod

Tri amcan sydd i'r modiwl hwn. Yr amcan cyntaf yw rhoi cynsail gadarn i fyfyrwyr yn egwyddorion a rheolau Ecwiti ac Ymddiriedau. Yn ail, bydd y myfyrwyr yn derbyn digon o wybodaeth i asesu'r feirniadol lle Ecwiti ac Ymddiriedau yn nhrefniadau ariannol a chyllidol dinasyddion preifat a'r byd masnach yn gyffredinol. Yr amcan olaf yw cynorthwyo'r myfyrwyr hynny sy'r dymuno cael eu esemptio o arholiadau Rhan I y Gyfraith Gymdeithas/y Bar.

Cynnwys

Cynnwys
1(a) Egwyddorion a rhwymediau ecwitiol
datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygiad ymddiriedau
ymddiriedau fel dulliau o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiadau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach
(b)/ Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol
gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva
Gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti
(c) Cyfraith Ymddiriedau
2. Ymddiriedau er budd personau
(a) creu ymddiriedolaeth
Gallu
gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurf
bythol-barhau
(b) sicrwydd buddiolwyr
Ymddiriedau a Phwerau
natur y buddiant llesiannol
cyfrif elw
(c) sicrwydd eiddo
3. Ymddiried Goblygedig ac Eiddo Teuluol
ymddiried dychwel, ymddiried trwy ddehongliad ac estoppel perchen mewn eiddo
ymddiriedau goblygiedig ac eiddo teuluol
ymddiriedau trwy ddehongliad adferol
ymddiriedau cudd ac ymddiriedau hanner cudd
Ymddiriedau Elusennol
Diffiniad o elusen
y cysyniad o fudd cyhoeddus
elusennau a gwleidyddiaeth
gweinyddiaeth elusennau
Deddf Elusennau 1994
cynlluniau cypres (cyn agosed ag y gellir) ac angen cymdeithasol
cronfeydd trychinebau
4. Ymddiriedau ar gyfer Dibenion nad ydynt yn elusennol ac i ddibenion cymysg, personau
5. Penodi, ymddeoliad a symud
pwerau a dyletswyddau
gwrthdaro buddiannau
taliadau
buddsoddi eiddo ymddiried
6. Amrywiad Ymddiriedau
terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
amrywiad ymddiriedau
Deddf Amrywiad Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC