Cod y Modiwl GW10420  
Teitl y Modiwl CYFLWYNIAD I WLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Andrew Linklater  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus IP10420  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   20 Hours. (20 x 1 awr)  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Hours. (8 x 1 awr)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester2 Awr arholiad 2 awr  60%
Arholiad Ailsefyll2 Awr arholiad 2 awr 100% arholiad neu sefyll/gyflwyno'r elfen a fethwyd o'r asesiad  100%

Canlyniadau dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl bydd y myfyrwyr yn gallu:

- Asesu'n feirniadol y dulliau canolog sy'n rhan o astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.
- Gwerthuso dulliau sy'n cystadlu a'i gilydd o fynd ynglyn a diwygio'r system ryngwladol.
- Gwneud defnydd beirniadol o ddulliau gwahanol o ymwneud a moeseg rhyfel, hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol a chyfiawnder cymdeithasol byd-eang.
- Cymhwyso'n feirniadol wahanol ddulliau o fynd ati i ddadansoddi materion cyfoes yng ngwleidyddiaeth y byd.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i ddadleuon y gorffennol a'r presennol ynglyn a'r rhagolygon ar gyfer cynnydd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

Nod

Bwriad y cynllun hwn yw egluro cymwysiadau cyfoes traddodiadau canolog syniadaeth ryngwladol a dadleuon parhaus ynglyn a natur gwleidyddiaeth y byd a'rr posibilrwydd o'ii ddiwygio.

Cynnwys

Mae tair rhan i'r modiwl. Mae Rhan Un yn dadansoddi tair ysgol o feddwl (realaeth, delfrydiaeth a'r dull cymdeithas ryngwladol) sy'n ganolog i astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol. Mae Rhan Dau yn archwilio'r dadleuon cyfoes ynglyn a moesoldeb a rhyfel, hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol, cyfiawnder cymdeithasol byd-eang a rheolaeth yr amgylchedd byd-eang. Mae Rhan Tri yn trafod astudiaethau achos cyfoes sy'n ganolog i ddealltwriaeth o'r rhagolygon ar gyfer diwygiad y system ryngwladol.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i feithrin sgiliau beirniadol drwy werthuso gwahanol berspectifau ar wleidyddiaeth y byd. Bydd sgiliau asesu gwahanol safbwyntiau athronyddol a diwylliannol yn cael eu datblygu ynghyd ag ymwybyddiaeth o ddimensiynau moesegol llunio polisiau a bywyd cyhoeddus. Yn ogystal, bydd sgiliau trosglwyddadwy dadansoddi persbectifau gwahanol a'u cymhwyso at ddadansoddiad astudiaethau achos arbennig yn cael eu datblygu.   

Drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau gall myfyrwyr feithrin sgiliau mwy penodol o ddehongli testun a deall cysyniadau. Bydd seminarau yn rhoi'r cyfle i gydweithio mewn grwpiau bychain ac i draddodi cyflwyniadau. Bydd y traethawd yn datblygu sgiliau ymchwilio annibynnol, dadleuon strwythuredig a chytbwys ynghyd a mynegiant eglur. Bydd yr arholiadau yn datblygu sgiliau cynllunio ymlaen llaw ac yn datblygu'r gallu i asesu gwahanol bersbectifau a dadleuon mewn amser cyfyngedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC