Cod y Modiwl GW32020  
Teitl y Modiwl Y RHYFEL OER  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Len Scott  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Lora Gibson  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   15 darlith awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 seminar awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Arholiad 2 awr  50%
Asesiad Semester Traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Gall myfyrwyr gael y cyfle i ail-sefyll y modiwl hwn os bydd y Gyfadran yn cytuno. Am fwy o wybodaeth, cysyllter a Gweinyddydd Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Gwerthuso'n feirniadol y prif ddadleuon ynglyn a dechreuadau'r Rhyfel Oer
2. Dadansoddi deinameg cysylltiad y Dwyrain a'r Gorllewin yn Ewrop
3 Gwerthuso rol arfau niwclear a rheolaeth arfau niwclear yn y berthynas rhwng Dwyrain a Gorllewin.
4. Archwilio a gwerthuso effaith y Rhyfel Oer yn Asia
5. Archwilio a gwerthuso'r 'Ail Ryfel Oer'
6. Gwerthuso'n feirniadol esboniadau gwahanol am ddiwedd y Rhyfel Oer
7. Dadansoddi rol amrywiol arweinwyr gwleidyddol yn natblygiad y Rhyfel Oer
8. Gwerthuso'n feirniadol gwahanol agweddau tuag at astudio'r Rhyfel Oer gan gynnwys astudio diwylliant a'r defnydd o hanes llafar beirniadol.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn seiliedig ar ddiddordebau sefydledig adrannol mewn hanes a hanes rhyngwladol y Rhyfel Oer a diddordebau ymchwil y cynullydd modiwl. Bydd yn fodiwl craidd gorfodol yn Rhan Dau ar gyfer myfyrwyr L268 gan gwblhau diwygiadau'r cynllun gradd hwn a ddechreuodd y llynedd drwy gyflwyno modiwl newydd yn Rhan Un, sef GW/IP12320. Bydd hefyd yn cynnig dewis ychwanegol i fyfyrwyr sy'n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol, astudiaethau strategol, hanes milwrol, cudd-wybodaeth a gwleidyddiaeth.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn edrych ar ddadleuon am ddechreuadau, deinameg a diwedd y Rhyfel Oer. Mae'n archwilio sut y datblygodd y gwrthdaro rhwng yn Ewrop ac Asia, a'r gwahanol ffurfiau o wrthdaro rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin a welwyd yn Ewrop a gwahanol rannau o'r Trydydd Byd. Mae'n edrych ar rol arfau niwclear mewn materion Dwyrain/Gorllewin ac yn trafod dadleuon ynglyn a sut y gwnaeth y Rhyfel Oer greu, gwaethygu neu gyfyngu gwrthdaro gwleidyddol a milwrol. Anogir myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ynglyn a sut yr astudir hanes y Rhyfel Oer a sut y mae methodolegau newydd yn darparu syniadau, persbectifau a dadleuon ffres.

Cynnwys

Themau a Phynciau
Y ddadl am ollwng y bom atomig
Dechreuadau'r Rhyfel Oer yn Ewrop
Dechreuadau'r Rhyfel Oer yn Asia
Y Ras Arfau Niwclear 1
Argyfyngau: Berlin a Ciwba
Detente a rheoli arfau
Rhyfel Fietnam - dechreuadau a deinameg
Cysylltiadau Sino-Sofietaidd
Nesad UDA a Tsieina
Yr Ail Ryfel Oer : Y Ras Arfau Niwclear 2
Yr Ail Ryfel Oer: y Trydydd Byd
Diwedd y Rhyfel Oer
Arweinyddion gwleidyddol 1945-91
Etifeddiaeth a Gorolwg

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi cyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau mewn seminarau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.  
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.  
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a siarad a bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Trefnir seminarau mewn grwpiau bychain lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif ddull y dysgu a bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Hyrwyddir hyn trwy chwarae rol lle bydd timoedd yn gweithredu o fewn a thu hwnt i awyrgylch y seminar.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd. Mae gwaith grwp yn hanfodol yn y seminarau gan roi cyfle i'r myfyrwyr feddwl fel unigolion a grwpiau am eu perfformiad. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau.  
Gwaith Tim Bydd seminarau'n cynnwys grwp bychan yn chwarae rol a bydd disgwyl i fyfyrwyr baratoi, cyflwyno a thrafod fel grwp y materion craidd sy'n berthnasol i bynciau'r seminar. Mae trafodaethau a dadleuon yn y dosbarth yn rhan hanfodol o brofiad dysgu'r modiwl.  
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC). Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.  
Rhifedd Ddim yn berthnasol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r trafodaethau mewn seminarau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno a gwaith tîm. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.  
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC