Datrys Problemau |
Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi cyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio |
Sgiliau ymchwil |
Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. |
Cyfathrebu |
Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a siarad a bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Trefnir seminarau mewn grwpiau bychain lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif ddull y dysgu a bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Anogir cyd-fyfyrwyr i holi'r cyflwynydd er mwyn beirniadu'r ddadl neu awgrymu sut i ddatblygu'r pwnc; bydd pawb felly'n cael cyfle i drafod cyfraniadau a syniadau'r lleill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. |
Gwaith Tim |
Bydd seminarau'n cynnwys grwp bychan yn trafod y materion craidd sy'n berthnasol i bynciau'r seminar. Mae trafodaethau a dadleuon yn y dosbarth yn rhan hanfodol o brofiad dysgu'r modiwl. |
Technoleg Gwybodaeth |
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC). Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard. |
Rhifedd |
Disgwylir i fyfyrwyr werthuso data ystadegol ar newid demograffig, arolygon agweddau a thystiolaeth feintiol arall fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r deunydd cwrs. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Mae'r trafodaethau mewn seminarau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno a gwaith tim. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. |
Sgiliau pwnc penodol |
Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys:
- Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl
- Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol
- Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol
- Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
|