Cod y Modiwl | GW35320 | ||||||||||||||
Teitl y Modiwl | RHYFELA WEDI WATERLOO: HANES MILWROL 1815-1918 | ||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | ||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Professor Martin S Alexander | ||||||||||||||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | ||||||||||||||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Martin S Alexander, Miss Lora Sian Gibson | ||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 16 darlith 1 awr | |||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar 1.5 awr | ||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Seminarau
1. Effaith Rhyfeloedd Napoleon
2. Rhyfela canol y 19 ganrif
3. Oes Aur Britannia, 1871-1914
4. Tuag at Ryfel Llawn: Y Ffrynt Gorllewinol
5. Tuag at Ryfel Llawn: yr ymylon a rhyfela'r mor
Datrys Problemau | Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at seminarau hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau mewn seminarau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. | ||
Sgiliau ymchwil | Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allur myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. | ||
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu i drafodaethau seminar. Er mwyn hyrwyddo hyn, bydd y cydlynydd yn gofyn i dri neu bedwar myfyriwr ymhob grwp seminar i baratoi o flaen llaw a dosbarthu'n electronig un dudalen o bwyntiau ar agweddau o bwnc y seminar ac i gyflwyno is-bwnc mewn cyflwyniad byr na chaiff ei asesu. Bydd myfyrwyr eraill (eto wedi'u nodi o flaen llaw) yn ymateb i'r cyflwyniad cyn agor y seminar i'r myfyrwyr eraill i gyd. Bydd myfyrwyr yn dysgu hefyd sut i gyflwyno eu syniadau a'u cyfleu mewn ffordd glir strwythuredig yn ysgrifenedig. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol. | ||
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. | ||
Gwaith Tim | Ni fydd gwaith tim yn elfen asesedig o'r modiwl hwn. Ond disgwylir i fyfyrwyr ddysgu rhyngweithio a chyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun grwp yn y seminarau. | ||
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr i wneud defnydd o wefannau wrth ymchwilio a chasglu data at eu traethawd, yn ogystal ag wrth baratoi pynciau trafod mewn seminarau ac wrth adolygu at yr arholiad. Mae yna nifer o wefannau yn canolbwyntio ar ryfela a hanes milwrol o Napoleon i'r Rhyfel Byd Cyntaf. A nifer ar wrthdaro 1914-18 yn benodol. Bydd disgwyl hefyd I fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard. | ||
Rhifedd | Ddim yn berthnasol | ||
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r trafodaethau mewn seminarau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno. Bydd dysgu am y broses o gynllunio gwaith cwrs a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. | ||
Sgiliau pwnc penodol | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Datblygu'r sgiliau cysyniadol ac ymarferol sydd eu hangen i gynnal eu medrusrwydd strategol eu hunain. - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC