Cod y Modiwl | GW35520 | |||||||||||||||||
Teitl y Modiwl | ARGYFWNG TAFLEGRAU CIWBA | |||||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2007/2008 | |||||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Professor Len Scott | |||||||||||||||||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod | |||||||||||||||||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | |||||||||||||||||
Semester nesaf y cynigir | N/A | |||||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Len Scott, Miss Lora Sian Gibson | |||||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 9 x darlith 1 awr | ||||||||||||||||
Seminarau / Tiwtorialau | 6 x seminar 2 awr | |||||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Darlithoedd:
1. Cyflwyniad: Tarddiad yr Argyfwng
2. Deinameg yr Argyfwng
3. Datrys yr Argyfwng
4. Hanesyddiaeth ac Adolygiaeth
5. Rol Arfau Niwclear
6. Persbectifau Sofietaidd a Chiwbaidd
7. Rol Kennedy a Khrushchev
8. Prydain a'r Argyfwng Taflegrau
9. Gwersi'r Argyfwng
Seminarau:
1. Tarddiad: Sofietaidd
2. Tarddiad: Americanaidd
3. Deinameg a Datrysiad
4. Rol Arfau Niwclear
5. Safbwyntiau Sofietaidd
6. Gwersi a Gorolwg
Datrys Problemau | Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at seminarau hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau mewn seminarau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. | ||
Sgiliau ymchwil | Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. | ||
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar a'u cyfleu mewn ffordd glir strwythuredig yn ysgrifenedig. Byddant hefyd yn dysgu sut i fynegi eu hunain yn y ffordd orau bosib. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a gwaith tim fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol. | ||
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith cwrs a'u traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. | ||
Gwaith Tim | Ni fydd gwaith tim yn elfen ganolog o'r modiwl hwn. Ond disgwylir i fyfyrwyr ddysgu rhyngweithio a chyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun grwp yn y seminarau. | ||
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr I chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chanfod adnoddau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig (fel Web of Science a OCLC). Bydd disgwyl hefyd I fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard. | ||
Rhifedd | Ddim yn berthnasol | ||
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno'r myfyrwyr a sgiliau gweithio mewn tim. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu¿r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. | ||
Sgiliau pwnc penodol | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth. |
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC