Datrys Problemau |
Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi at seminarau hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau mewn seminarau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.
Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
|
Sgiliau ymchwil |
Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. |
Cyfathrebu |
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar a'u cyfleu mewn ffordd glir strwythuredig yn ysgrifenedig. Byddant hefyd yn dysgu sut i fynegi eu hunain yn y ffordd orau bosib. Bydd y seminarau ar gyfer grwpiau llai lle mai trafodaeth lafar a gwaith tîm fydd prif ddull y dysgu a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
|
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. |
Gwaith Tim |
Ni fydd gwaith tim yn elfen ganolog o'r modiwl hwn. Ond disgwylir i fyfyrwyr ddysgu rhyngweithio a chyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun grwp yn y seminarau. |
Technoleg Gwybodaeth |
Anogir myfyrwyr I chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chanfod adnoddau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig (fel Web of Science a OCLC). Bydd disgwyl hefyd I fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard. |
Rhifedd |
Ddim yn berthnasol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Mae'r trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. |
Sgiliau pwnc penodol |
Bydd myfyrwyr yn dysgu'r sgiliau sylfaenol ar gyfer defnyddio methodoleg hanesyddol yng nghyd-destun hanes milwrol. Yn bennaf, bydd hyn yn golygu datblygu'r gallu i ddefnyddio tystiolaeth mewn ffordd soffistigedig i gyflwyno dadl. Bydd disgwyl iddynt hefyd ddarparu cyfeiriadau llawn a chywir i'w ffynhonnell. Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr ymgyfarwyddo gydag esblygiad strategaeth a thactegau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. |