Cod y Modiwl GW38720  
Teitl y Modiwl AMERICA LADIN HEDDIW  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Lucy F A Taylor  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   16 darlith awr (cyfrwng Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 seminar awr (cyfrwng Cymraeg)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Perfformiad Seminar  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad seminar (1,000 o eiriau)  10%
Asesiad Semester Adroddiad ar wlad (2,000 o eiriau)  30%
Arholiad Semester2 Awr Arholiad dwy awr (wedi ei weld o flaen llaw)  50%
Asesiad Ailsefyll Gall myfyrwyr gael y cyfle i ail-sefyll y modiwl hwn os bydd y Gyfadran yn cytuno. Am fwy o wybodaeth, cysyllter a Gweinyddydd Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Gwerthuso'n feirniadol y materion gwleidyddol amlycaf ar hyd a lled rhanbarth America Ladin heddiw.
2. Trafod y sefyllfa wleidyddol, gymdeithasol ac economaidd mewn nifer o wledydd America Ladin.
3 Dadansoddi effaith ffenomenau niweidiol megis tlodi a llygredd ar iechyd gwleidyddol
4. Asesu effaith gweithredwyr gwleidyddol newydd yn y rhanbarth
5. Gwerthuso rol ac arwyddocad ffenomenau rhyngwladol megis cyffuriau a'r amgylchedd.
6. Tafod y rhagolygon ar gyfer datblygiad gwleidyddol y dyfodol yn y rhanbarth.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ychwanegu at ddarpariaeth yr Adran ym maes Gwleidyddiaeth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac America Ladin. Bydd yn cyflwyno rhai o bynciau pwysig gwleidyddiaeth America Ladin dros y deng mlynedd diwethaf. Bydd hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i'r materion cyfoes y clywir amdanynt yn y newyddion a lleoli'r tueddiadau hynny o fewn cyd-destun hanesyddol rhanbarthol a diweddar.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn dechrau trwy gyflwyno gwleidyddiaeth, economeg a chymdeithas America Ladin cyn mynd ymlaen i archwilio nifer o faterion cyfoes pwysig ym ymwneud a thlodi, hawliau dynol, llygredd, y chwith gwleidyddol, mudiadau brodorol, cyffuriau a'r amgylchedd.

Cynnwys

1. Cyflwyniad

2. Deall America Ladin - gwleidyddiaeth, economeg, cymdeithas
   Seminar: Cymharu gwledydd - data cyfoes a phersonoliaethau allweddol
3. Tlodi a neoryddfrydiaeth

4. The 'Piqueteros', clybiau cyfnewid ac argyfwng yr Ariannin yn 2000
   Seminar: pam fod ffyniant mor wibiog?
5. Hawliau Dynol
6. Achos Pinochet a gwragedd Ciudd Juarez Mecsico
   Seminar: llwyddo a methu wrth geisio cyfiawnder
7. Llygredd
8. Cwsmeriaeth a llygredd ym Mecsico
   Seminar: sut mae llygredd yn tanseilio cymdeithas ddemocrataidd
9. Dewisiadau'r Chwith
10. Chavez yn Venezuela, Lula ym Mrasil .... a Fidel yng Nghiwba?
   Seminar: a yw ton y chwith newydd yn dechrau yn America Ladin?
11. Mudiadau brodorol
12. Evo Morales yn Bolifia
   Seminar: 'Indiaid' yn gweddnewid gwleidyddiaeth a'r wladwriaeth
13. Cyffuriau
14. Gwleidyddiaeth narco yn Colombia
   Seminar: Problem cyffuriau pwy?
15. Dirywiad yr Amgylchedd
16. Amazonia, mudiadau anllywodraethol a Thwristiaeth Eco
   Seminar: Dyfodol America Ladin a dyfodol y blaned

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno adroddiad a pharatoi at gyflwyniad seminar yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol a sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau fod gallu'r myfyriwr i weithio ar ei ben ei hun yn cael ei asesu.  
Sgiliau ymchwil Bydd holl elfennau'r gwaith asesedig yn gofyn am sgiliau ymchwil annibynnol. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r We yn ogystal a thestunau academaidd mwy traddodiadol. Yn rhannol asesir myfyrwyr ar eu gallu i gasglu deunyddiau ac adnoddau addas a diddorol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.  
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol (er mai dim ond y gwaith ysgrifenedig a gaiff ei asesu). Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu ac wrth siarad a dysgu bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yn unig yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Bydd y modiwl yn profi hefyd sgiliau cyfathrebu clywedol a llafar gan ei fod yn asesu cyflwyniad a pherfformiad seminar. Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith cwrs a phynciau eu cyflwyniadau. Rhaid cwblhau cyflwyniad seminar a chyflwyno gwaith cwrs ar amser, a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. Disgwylir i fyfyrwyr ystyried eu perfformiad eu hunain mewn seminarau (cryfderau a gwendidau allweddol o'u cymharu a meini prawf cyhoeddedig) mewn ffurf fydd yn cael eu atodi i fersiwn ysgrifenedig y cyflwyniad seminar.  
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn y seminarau a bydd y cydlynydd yn eu hannog i weithio mewn timoedd tu allan i'r seminarau hefyd. Defnyddir adnoddau Blackboard megis y bwrdd trafod hefyd.  
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC). Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.  
Rhifedd Ddim yn berthnasol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i hogi a phrofi sgiliau a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn ei bywydau gwaith, yn arbennig rhoi cyflwyniadau, gwrando, meddwl ac ymateb i gyflwyniadau llafar. Mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu cyflwyniad sy'n dasg gyffredin yn gweithle. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried pa wersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol.  
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC