Cod y Modiwl GW39420  
Teitl y Modiwl ETHOLIADAU YNG NGHYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Roger M Scully  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   14 Hours. (14 x 1 awr)  
  Sesiwn Ymarferol   6 Hours. 3 x 2 awr (2 sesiwn cyfrifiadurol a un gweithdy cynllunio arolwg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Hours. (8 x 1 awr)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Traethawd: 2,500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Prosiect  30%
Asesiad Semester Adroddiad Y Myfyriwr o 1,500 o eiriau  30%
Arholiad Ailsefyll Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. 

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl fe fydd myfyrwyr yn gallu:

i)   dadansoddi'n feirniadol y prif esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru.
ii)   dadansoddi'n feirniadol hanes etholiadau yng Nghymru a thu hwnt.
iii) defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i ddadansoddi canlyniadau arolwg barn.

Disgrifiad cryno

Fe gyflwynir myfyrwyr i'r prif ddamcaniaethau am ddulliau pleidleisio ac fe ystyrir eu heffeithiolrwydd yn y cyd-destun Cymreig.

Nod

Mae amcanion y modiwl yn cynnwys:-

- Rhoddi dealltwriaeth glir o wahanol esboniadau o batrymau pleidleisio yng Nghymru
- Rhoddi cyflwyniad i hanes etholiadau yng Nghymru a Phrydain.
- I gyflwyno myfyrwyr i waith holiadur a dadansoddiad data meintiol.
- I ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tim trwy waith prosiect.

Cynnwys

Fe fydd y modiwl hon yn trafod y gwahanol esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru. Bydd hefyd yn ystyried datblygiad hanesyddol etholiadau yng Nghymru a Phrydain. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil meintiol er mwyn asesu agweddau o ymddygiad pobl wrth bleidleisio.

Sgiliau trosglwyddadwy

Fe fydd myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy yn y modiwl hon. Yn ogystal a sgiliau cyfathrebu, dadansoddi ac ymchwilio a ddatblygir mewn modiwlau 'traddodiadol' fe gyflwynir myfyrwyr i sgiliau meiniol a sgiliau ysgrifennu o fath gwahanol. Yn benodol fe fydd cynllunio, cynnal a dadansoddi'r arolwg barn yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tim, rheoli prosiectau, ymchwil meintiol ac ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ddata cynradd.

10 credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Bridget Taylor & Katarina Thompson Scotland and Wales: Nations Again
Paul Webb The Modern British Party System

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC