Datrys Problemau |
Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd yr adroddiad archwiliad rhywedd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol a sgiliau ysgrifennu. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. |
Sgiliau ymchwil |
Bydd paratoi'r Adroddiad Archwiliad Rhywedd yn gofyn am sgiliau ymchwil annibynnol. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a'r We yn ogystal a thestunau academaidd mwy traddodiadol. Yn rhannol asesir myfyrwyr ar eu gallu i gasglu deunyddiau ac adnoddau addas a diddorol.
Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
|
Cyfathrebu |
Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol (er mai dim ond y gwaith ysgrifenedig a gaiff ei asesu). Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yn unig yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau a dylai cyflwyniad y gwaith ddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
|
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith cwrs a phynciau eu cyflwyniadau. Rhaid cyflwyno gwaith cwrs ar amser, a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. |
Gwaith Tim |
Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn y seminarau a bydd y cydlynydd yn eu hannog i weithio mewn timoedd tu allan i'r seminarau hefyd. Defnyddir adnoddau Blackboard megis y bwrdd trafod hefyd. |
Technoleg Gwybodaeth |
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC).
Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.
|
Rhifedd |
Ddim yn berthnasol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Mae'r rheidrwydd i ysgrifennu adroddiad archwiliad rhywedd (yn hytrach na thraethawd) yn adlewyrchu'n well y gweithgareddau ysgrifennu a ddisgwylir yn y gweithle. Yn ogystal, mae gweld y papur arholiad o flaen llaw yn gofyn i fyfyrwyr baratoi gwaith mewn amser cymharol fyr yn hytrach nag mewn amser brys; mae hyn eto yn debycach i'r hyn a ddisgwylir yn y gweithle anacademaidd. |
Sgiliau pwnc penodol |
Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys:
- Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl
- Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol
- Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol
- Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
|