Cod y Modiwl GWM7830  
Teitl y Modiwl PLEIDIAU A CHYNRYCHIOLAETH YN Y GYMRU GYFOES  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Elin Royles  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro Richard W Jones, Dr Elin Royles  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 seminar x 2 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 2 draethawd 3,000 o eiriau  80%
Asesiad Semester 1 papur 1,000 o eiriau ar seminar  20%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Trafod natur gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru cyn 1999 ac wedi datganoli.
2. Asesu'n feirniadol a gwerthuso effeithiau datganoli ar wleidyddiaeth etholiadol a'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.
3 Disgrifio a dadansoddi prif nodweddion ffurfiau amgen o gynrychiolaeth wedi datganoli ac asesu llwyddiant y Cynulliad Cenedlaethol wrth ymgyrraedd at 'gynrychiolaeth ddisgrifiadol'.
4. Arddangos, trwy waith ysgrifenedig a thrafodaethau seminar, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r newidiadau yn y farn gyhoeddus yng Nghymru wedi datganoli.
5. Dadansoddi effeithiau'r farn gyhoeddus ar y pleidiau gwleidyddol a'r Cynulliad Cenedlaethol.
6. Trafod prif nodweddian Cynrychidaeth Cymru yn yr undeb Europeaidd.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ffurfio rhan allweddol o ddarpariaeth rhan amser yr adran ym maes dysgu Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Ar y cyd â'r modiwlau eraill, mae'n rhoi cyflwyniad i'r maes hwn ar lefel uwch ac yn cynnig i fyfyrwyr sydd â diddordeb wybodaeth arbenigol o ddatblygiad gwleidyddiaeth etholiadol, y farn gyhoeddus a chynrychiolaeth yng Nghymru ers datganoli, yn enwedig mewn perthynas â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw archwilio¿r datblygiadau yng ngwleidyddiaeth Cymru ers Creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae¿n ceisio datblygu gwybodaeth arbenigol o wleidyddiaeth etholiadol, gwahanol ffurfiau o gynrychiolaeth a¿r farn gyhoeddus ar ôl datganoli er mwyn asesu natur gymhleth gwleidyddiaeth Cymru ac ymddygiad gwleidyddol mewn Cymru ddatganoledig.

Cynnwys

Pleidiau a gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru gyfoes
1. Gwleidyddiaeth etholiadol yng Nghymru: y cyd-destun hanesyddol a sefydliadol
2. Y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru
3. Gwleidyddiaeth etholiadol wedi datganoli: ymddygiad pleidleisio a phleidleisio aml-lefel yng Nghymru a rhanbarthau Ewropeaidd eraill
Ffurfiau amgen o gynrychiolaeth
4. `Gwleidyddiaeth newydd¿: datblygiadau yn y Deyrnas Gyfunol ddatganoledig
5. Merched, lleiafrifoedd ethnig a¿r agenda gydraddoldeb yng Nghymru
6. Cyfraniad cymdeithas sifil i wleidyddiaeth ôl ddatganoledig
Y Farn Gyhoeddus
7. Agweddau cyhoeddus a¿r Cynulliad Cenedlaethol: dewisiadau cyfansoddiadol, maint y bleidlais a chyfreithlondeb
8. Hunaniaethau cenedlaethol yng Nghymru wedi datganoli
Cynrychioli Cymru Dramor
9. Cymru a¿r Undeb Ewropeaidd
10. Casgliad

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl; bydd cyflwyno dau draethawd a thraethawd adolygiadol yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd yr angen i ymchwilio a pharatoi cyflwyniadau seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol agweddau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymol; cynllunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai.  
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethodau a thraethawd adolygiadol yn dangos sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd y rheidrwydd i leoli adnoddau ymchwil priodol a nodi'r canlyniadau hefyd yn hyrwyddo sgiliau ymchwil. Bydd gwaith ymchwil paratoadol ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol.  
Cyfathrebu Bydd rhaid i fyfyrwyr ddysgu cyflwyno'u syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno'u hunain yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir. Byddant yn dod i wybod sut i ddefnyddio'r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffordd orau o gyfathrebu i'w mantais. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu ac i fod yn uniongyrchol am nodau ac amcanion. Dysgant ystyried yr hyn sy¿n berthnasol i'r pwnc, ffocws a nodau eu dadleuon neu drafodaeth yn unig. Caiff y seminarau eu rhedeg i grwpiau bach lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif gyfrwng y dysgu, a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad y myfyrwyr a chyfathrebu.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond gyda chymorth gan y cydlynydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad unigol trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a gweithredu ar eu syniadau eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, paratoi rhestr ddarllen a phenderfynu (gydag arweiniad) ar bwnc traethawd a phynciau cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i wneud cyflwyniad mewn seminar a chyflwyno traethawd erbyn dyddiad cau yn gorfodi'r myfyrwyr i reoli amser ac adnoddau yn effeithiol.  
Gwaith Tim Bydd seminarau'n cynnwys trafodaethau mewn grwp bach lle bydd yn rhaid i fyfyrwyr drafod materion sy'n berthnasol i bwnc y seminar. Mae trafodaethau a dadleuon fel hyn yn rhan hollbwysig o'r modiwl.  
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno'u gwaith wedi'i brosesu ar gyfrifiadur. Gan fod y cwrs yn un rhan amser, bydd rhaid i'r myfyrwyr chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a defnyddio ffynonellau electronig megis BIDS ac OCLC. Yn ogystal, bydd llawer o gyfathrebu gyda'r myfyrwyr a rhwng myfyrwyr yn electronig.  
Rhifedd Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn dadansoddi peth data rhifyddol trwy archwilio data etholiadol ac arolygon o Gymru ers 1997 ac felly byddant yn datblygu sgiliau deongliadol sylfaenol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Disgwylir i'r modiwl hwn ddenu unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y maes. O ganlyniad, bydd y modiwl yn fodd i ddyfnhau arbenigedd ac yn gam i hybu gyrfa. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, paratoi fframwaith prosiect, hogi a datblygu'r prosiect a'i weld yn cael ei gwblhau yn cyfrannu tuag at y portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.  
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso esiamplau a syniadau ar y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc penodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol i'r modiwl Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC