Cod y Modiwl HA11220  
Teitl y Modiwl TROI'R BYD GWYDDONOL AR EI BEN, 1600-1900  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Iwan R Morus  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus HY11220  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 x 1 hour lecture  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 seminarau a dosbarthiadau tiwtorial unigol  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 2 AWR  70%
Asesiad Semester 1 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  30%
Asesiad Ailsefyll2 Awr ARHOLIAD CAEEDIG AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL  100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
gwerthfawrogi agweddau haneswyr gwyddoniaeth cyfoes tuag at ddatblygiad hanesyddol y gwyddorau

deall dadleuon hanesyddol ynglyn a'r berthynas rhwng gwyddoniaeth a diwylliant.

amgyffred datblygiad cyffredinol y gwyddorau rhwng 1600 a 1900.

deall defnydd gwahanol fathau o dystiolaeth hanesyddol ynglyn a datblygiad a gwyddorau.

Disgrifiad cryno

Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhannau hanfodol o ddiwylliant modern. Er hyn, rydym yn aml yn meddwl amdanynt fel pe na bai ganddynt eu hanes eu hunain o gwbl. Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno hanes gwyddoniaeth drwy gyfrwng esiamplau o newidiadau 'chwyldroadol' yn ein dealltwriaeth o'r byd o'n cwmpas. Drwy'r esiamplau yma - y Chwyldro Gwyddonol; y Chwyldro Cemegol; Darganfyddiad Cadwraeth Ynni a'r Chwyldro Darwinaidd - bydd y modiwl yn cyflwyno'r modd y medrir deall datblygiad hanesyddol gwyddoniaeth fel rhan anhepgor o ddatblygiadau diwyllianol y cyfnod modern.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno datblygiadau gwyddonol rhwng 1600 a 1900 yn eu cyd-destun diwylliannol. Bydd y modiwl yn defnyddio'r syniad o chwyldro gwyddonol fel ffordd o ddeall datblygiad hanesyddol y gwyddorau yn ystod y cyfnod.

Cynnwys

1. Cyflwyniad - hanes gwyddoniaeth a hanes diwylliant
2. Ail-drefnu'r Nefoedd
3. Y Wybodaeth Newydd
4. Ffyrdd Newydd o Wybod
5. `Let Newton Be!'
6. Cemeg heb ei Ddiwygio?
7. Nwy yn y Nen
8. Pwy Ddarganfyddodd Ocsygen?
9. Cemeg wedi'i Ddiwygio?
10. Teganau neu Beiriannau?
11. Cadwraeth Beth?
12. Ynni Prydeinig
13. Y Wyddoniaeth Almaenaidd
14. Gwyddoniaeth a Radicaliaeth
15. Taith y Beagle
16. On the Origin of Species
17. Derbyniad Darwin
18. Gwyddoniaeth a'r Byd Modern

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.  
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.  
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.  
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.  
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.  
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglyn â datblygiad gwyddoniaeth; datblygu'r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Bowler, Peter (1984) Evolution: The History of an Idea University of California Press 0520048903
Bowler, Peter & Morus, Iwan Rhys (2005) Making Modern Science University of Chicago Press 0226068617
Brock, William H. (1992) The Fontana History of Chemistry London, Fontana 0006861733
Dear, Peter Robert. (2001.) Revolutionizing the sciences :European knowledge and its ambitions, 1500-1700 /Peter Dear. Basingstoke : Palgrave 033371573X
Desmond, Adrian J (1989.) The politics of evolution :morphology, medicine, and reform in radical London /Adrian Desmond. Chicago ; London : University of Chicago Press 0226143465
Golinski, Jan. (1992 (1999 prin) Science as public culture :chemistry and enlightenment in Britain, 1760-1820 /Jan Golinski. http://www.loc.gov/catdir/toc/cam029/91039024.html 0521659423
Morus, Iwan Rhys (2005) When Physics became King University of Chicago Press
Shapin, Steven. (1996.) The scientific revolution /Steven Shapin. Chicago, IL ; London : University of Chicago Press 0226750213
Smith, Crosbie. (1998.) The science of energy :a cultural history of energy physics in Victorian Britain /Crosbie Smith. http://www.loc.gov/catdir/description/uchi051/98024960.html 0485114313

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC