Cod y Modiwl HA14120  
Teitl y Modiwl PRYDAIN YN YR OES YMERODRAETHOL, 1850-1914  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Owen G Roberts  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus HY14120  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 darlith  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 seminar  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 2 AWR  70%
Asesiad Semester 1 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  30%
Arholiad Ailsefyll2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 2 AWR  70%
Asesiad Ailsefyll A CHYFLWYNO UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG NA CHYFLWYNWYD  30%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos dealltwriaeth feirniadol o gorpws o wybodaeth hanesyddol sy'n ymwneud â hanes gwleidyddol a chymdeithasol Prydain ymerodraethol.

Dangos dealltwriaeth o'r prif effeithiau gafodd y profiad ymerodraethol ar gymdeithas gwledydd Prydain, gan gynnwys ffactorau diwylliannol, ideolegol, a hunaniaethol.

Dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol, gan ganolbwyntio ar ffynonellau eilradd.

Mynegi dealltwriaeth yn gynyddol hyderus a graenus, a thrafod materion perthnasol yn ysgrifenedig o fewn cyd-destun academaidd.

Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp (heb ei asesu'n ffurfiol).

Disgrifiad cryno

Ffocws y modiwl yw profiad Prydain o fod yn un o bwerau mwya'r byd yn ystod yr `Oes Ymerodraethol', a sut yr effeithiodd y profiad yma ar hunaniaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant ei phobl. Gan ddechrau gyda throsolwg ar Brydain a'i safle yn y byd ar ganol y 19eg ganrif, bydd myfyrwyr yn asesu'r rhesymeg gyfoes dros weithgareddau imperialaidd oddi cartref. Wedyn, bydd y modiwl yn defnyddio nifer o argyfyngau neu drobwyntiau yn hanes yr ymerodraeth i asesu dylanwad y profiad ymerodraethol ym Mhrydain. Asesir agweddau tuag at yr ymerodraeth ymhlith dosbarthiadau llywodraethol a'r bobl gyfredin yng nghyd-destun Gwrthryfel y Sepoy, ymgyrchoedd Gladstone ym Midlothian, a'r Ras am Affrica. Astudir cysyniadau ynglyn â hil a Phrydeindod, ac archwilir y modd y'u heriwyd yn y cyfnod oherwydd digwyddiadau megis Argyfwng Ymreolaeth Iwerddon. Astudir mudo i'r trefedigaethau, a phynciau cysylltiedig megis imperialaeth ddiwylliannol. Trafodir Rhyfel y Boer a'i ganlyniadau, yn enwedig yn nhermau'r effaith ar syniadau am rywedd a Darwiniaeth Gymdeithasol. Bydd y modiwl yn cloi trwy asesu rôl imperialaeth yn Ewrop wrth ddynesu at y Rhyfel Mawr, a thrafodir sut y dylanwadodd yr Ymerodraeth ar gymdeithas a diwylliant ym Mhrydain yn yr oes Fictoraidd ac Edwardaidd.

Nod

Lleolir y modiwl yn gadarn o fewn y datblygiadau newydd a fu mewn ysgrifennu hanesyddol yngl'n â gorffennol imperialaidd gwledydd Prydain. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae haneswyr wedi defnyddio'r profiad ymerodraethol i astudio themâu yn hanes cymdeithasol a diwylliannol Prydain. Bydd y modiwl, felly, yn archwilio effaith y profiad ymerodraethol ar Brydain yn y cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd, gan ganolbwyntio ar hunaniaeth, diwylliant, a syniadau am safle Prydain yn y byd. Bydd y modiwl yn cynnig golwg eang ar y pwnc, a hefyd yn cynnig rhagarweiniad i fyfyrwyr sydd am astudio Prydain ac Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ogystal â hunaniaethau cenedlaethol a gwleidyddiaeth Prydain fodern, ym mlynyddoedd 2 a 3

Cynnwys

Darlithoedd
1. Cyflwyniad
2. Prydain a'r byd yng nghanol y 19eg ganrif
3. Yr economi ymerodraethol
4. Cenhadon, a'r `genhadaeth wareiddio'.
5. Gwrthryfel y Sepoy a diwedd yr East India Company
6. `Imperialaeth Newydd' a'r Ras am Affrica
7. Midlothian a Khartoum: dadl gyhoeddus am yr Ymerodraeth.
8. Syniadau imperialaidd a diwylliant poblogaidd.
9. Syniadau am hil
10. Seisnigrwydd a Phrydeindod
11. Argyfwng Ymreolaeth Iwerddon
12. Mudo i'r trefedigaethau
13. Chwaraeon, imperialaeth ddiwylliannol, a hunaniaethau newydd
14. Rhyfel y Boer
15. Wedi Rhyfel y Boer. Darwiniaeth Gymdeithasol a diwygio.
16. Imperialaeth a rhywedd
17. Cystadleuaeth rhwng ymerodraethau, a rhyfel yn Ewrop
18. Diweddglo: y profiad ymerodraethol a'r gymdeithas ym Mhrydain.

Seminarau
1. Cenhadaeth wareiddio? Y rhesymeg y tu ôl i'r Ymerodraeth.
2. Syniadau imperialaidd a diwylliant poblogaidd
3. Sialens i syniadau o Brydeindod
4. Rhyfel y Boer a dyfodol yr hil
5. Cystadleuaeth ymerodraethol, a'r Rhyfel Mawr

Un dosbarth tiwtorial unigol yn ystod y semester

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Nodi problemau sy'n codi o gyd-destun cymdeithasol a hanesyddiaethol Prydain ymerodraethol; nodi tystiolaeth hanesyddol a allai effeithio ar atebion posibl a gwerthuso'u manteision ac anfanteision; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem o ddadansoddiad hanesyddol.  
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.  
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitro cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel y bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.  
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.  
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o fedrau personol yng nghyswllt safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.  
Sgiliau pwnc penodol Deall a thafoli tystiolaeth hanesyddol ac archwilio cysyniadau craidd yng nghyd-destun hanes Prydain ac Ewrop yn yr Oes Ymerodraethol.  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC