Cod y Modiwl HA36730  
Teitl y Modiwl TLODI, HAINT A DIWYGIO YM MHRYDAIN OES FICTORIA  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Owen G Roberts  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus HY36730  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 darlith  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 seminar  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 3 AWR  60%
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  40%
Arholiad Ailsefyll3 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 3 AWR  60%
Asesiad Ailsefyll AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG A GOLLWYD  40%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a gwerthuso corpws o wybodaeth hanesyddol ym maes diwygio cymdeithasol ym Mhrydain Oes Fictoria

Archwilio¿n feirniadol sgil-effeithiau diwydiant a threfoli, a deall y symbyliad y tu ôl i ymgeisiadau i wella problemau cymdeithasol.

Gosod pwnc diwygio cymdeithasol o fewn cyd-destun ehangach hanes Prydain yn y 19eg ganrif.

Mynegi dadleuon hanesyddol yn gynyddol hyderus a graenus, mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig.

Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp (heb ei asesu'n ffurfiol)

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn cychwyn gydag astudiaeth o'r problemau cymdeithasol a ddaeth yn sgil y chwyldro diwydiannol a threfoli, a sut y deallwyd y problemau hynny yng nghyd-destun syniadau cyfoes am rôl y wladwriaeth, trefn gymdeithasol, a'r economi. Yn y cyd-destun yma, bydd myfyrwyr yn astudio mudiadau diwygio cynnar megis Deddf Newydd y Tlodion, a deddfau ffatrioedd. Bydd y modiwl hefyd yn asesu dylanwad y geri marwol ac `argyfwng' iechyd canol y 19eg ganrif, ac yn archwilio sut aethpwyd ati i ddarganfod atebion i'r problemau. Astudir hefyd gwestiynau megis cyfraith a threfn a thai, cyn gwerthuso dylanwad y mudiadau diwygio cymdeithasol ar fywydau pobl ym Mhrydain erbyn diwedd yr 19eg ganrif. Bydd y modiwl yn cloi trwy asesu dylanwad tymor hir mudiadau cymdeithasol Fictoraidd.

Nod

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i agwedd bwysig o hanes cymdeithasol Prydain Fictoraidd. Bydd yn rhoi'r cyfle iddynt astudio sut y deallwyd canlyniadau diwydiant a threfoli, a sut y ffurfiwyd atebion gwleidyddol i'r problemau a ddaeth yn sgil y datblygiadau hynny. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i asesu llwyddiant diwygiadau cymdeithasol, ac i astudio dylanwad tymor hir y mudiadau diwygio Fictoraidd.

Cynnwys

Darlithoedd:
1. Cyflwyniad
2. Prydain y 19eg ganrif. Trefoli a newid economaidd
3. Y cwestiwn `Condition of England': symbylu digwygiad cymdeithasol
4. Tlodi a Deddf Newydd y Tlodion
5. Amodau gwaith a'r deddfau ffatrioedd cynnar
6. Bywyd a marwolaeth: iechyd ym Mhrydain erbyn dechrau'r 1830au
7. Y pla newydd: y geri a'i effaith
8. Edwin Chadwick a'r `syniad iechydol'
9. Cael eich bwlio i fod yn iach?: twf a chwymp y Bwrdd Iechyd Cyffredinol
10. Cyfunoliaeth, balchder dinesig a diwygio trefol
11. Dwr, conglfaen iechyd cyhoeddus?
12. Glanhau'r amgylchedd trefol
13. Crefydd, hamddena moesol, a `gwareiddio'r' dosbarth gweithiol.
14. Diwygio Tai I: diffinio'r `slym'
15. Diwygio Tai II: methiant mwyaf diwygio cymdeithasol Oes Fictoria?
16. Y `chwyldro facteriolegol' a meddygaeth, 1870-1900
17. Amodau byw ar droad y ganrif
18. Diweddglo. Canlyniadau hir-dymor diwygio cymdeithasol Oes Fictoria

Seminarau:
1. Prydain yn y 1830s: synaidau gwleidyddol a realiti gymdeithasol
2. Deddf Newydd y Tlodion a'i heffeithiau
3. Diwygio amodau gwaith
4. Y geri, y dwymyn, a marwolaethau plant
5. Edwin Chadwick a rôl y wladwriaeth mewn iechyd cyhoeddus
6. Iechyd - y sbardun gogyfer â diwygio yn y trefi?
7. Hamdden a gwareiddio strydoedd y ddinas
8. Delio â'r slym Fictoraidd
9. Y lleihad mewn marwolaethau yn chwarter ola'r 19eg ganrif - y ddadl fawr
10. Diweddglo ac adolygu

2 ddosbarth tiwtorial unigol

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr adnabod ac ymateb i broblemau hanesyddol a chyflawni ymchwil priodol cyn y seminarau a'r traethodau. Asesir hyn fel rhan o'r traethodau a'r arholiad.  
Sgiliau ymchwil Datblygir y sgiliau yma trwy'r ymchwil y disgwylir i fyfyrwyr ei gwneud gogyfer â'r traethodau a'r seminarau. Asesir hyn fel rhan o asesiad y traethodau a'r arholiad  
Cyfathrebu Datblygir y sgil trwy'r ddau draethawd a asesir, a'r trafodaethau seminar. Disgwylir i fyfyrwyr i roi cyflwyniadau seminar yn ystod y tymor. Asesir y sgil hon yn ysgrifenedig drwy'r traethodau a'r arholiad. Nid asesir cyflwyniadau llafar yn ffurfiol ond rhoddir adborth i fyfyrwyr.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd traethodau'n cael eu dychwelyd yn ystod tiwtorialau a rhoddir cyngor ar wella sgiliau ymchwil ac ysgrifennu traethodau.  
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn y seminarau, ac wrth baratoi ar gyfer seminarau.  
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr i ddarganfod deunydd priodol drwy amrywiol ffynonellau electronig a'i gynnwys yn eu gwaith. Anogir myfyrwyr hefyd i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu.  
Rhifedd Bydd gofyn i fyfyrwyr ddeall a defnyddio peth gwybodaeth rifyddol ar bynciau megis graddfa marwolaethau, a gyflwynir iddynt mewn darlithoedd a seminarau  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn helpu i ddatblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd gweithgareddau eraill, megis ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn modd clir a beirniadol, yn datblygu sgiliau cyflwyno a dadansoddi ymhellach.  
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn datblygu galluoedd y myfyrwyr i gasglu tystiolaeth hanesyddol o ystod o ffynonellau, a'i chynnwys mewn dadleuon cydlynol o fewn cyd-destun cysyniadol a deallusol  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC