| Datrys Problemau |
Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
| Sgiliau ymchwil |
Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd. |
| Cyfathrebu |
Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun |
Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth. |
| Gwaith Tim |
Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
| Technoleg Gwybodaeth |
Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa |
Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa |
| Sgiliau pwnc penodol |
Datblygu ymwybyddiaeth o'r angen i osod ymchwil hanesyddol o fewn fframwaith hanesyddiaethol a methodolegol gadarn. |