Cod y Modiwl HC11220  
Teitl y Modiwl GRYM, PROTEST A CHYMDEITHAS YNG NGHYMRU FODERN 1850 -1997  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Owen G Roberts  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Steven Thompson, Dr Eryn M White, Dr Paul B O'Leary  
Elfennau Anghymharus WH11220  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd    
  Seminarau / Tiwtorialau   5 seminar a dosbarthiadau tiwtorial unigol  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG  70%
Asesiad Semester 1 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  30%
Asesiad Ailsefyll2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG A GOLLWYD  100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Deall ac adolygu'r feirniadol corpws o wybodaeth hanesyddol yn ymwneud a hanes gwleidyddol a chymdeithasol Cymru fodern.

Amgyffred y prif ffactorau sydd wedi effeithio ar ddatblygiad Cymru yn y cyfnod dan sylw, gan gynnwys newidiadau mewnol a ffactorau yn deillio o'r cyd-destun Prydeinig a byd-eang.

Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol, gan ganolbwynio ar ffynonellau eilradd.

Mynegi dealltwriaeth yn gynyddol hyderus a graenus, a thrafod materion perthnasol yn ysgrifenedig o fewn cyd-destun academaidd

Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp (heb ei asesu'n ffurfiol).

Disgrifiad cryno

Gan gychwyn gan olrhain newidiadau cymdeithasol ac economaidd ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i astudio cyfnod cynhyrfus gyda chanlyniadau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol pell-gyrhaeddol. Bydd y modiwl yn astudio dominyddiaeth y Blaid Ryddfrydol a'r Blaid Lafur yn eu tro, yn ogystal a mudiadau poblogaidd megis Anghydffurfiaeth radical, y mudiad o blaid pleidlais i ferched, undebaeth lafur a mudiadau cenedlaetholgar. Bydd cyfle hefyd i astudio sut effeithiodd y cyd-destun Prydeinig a grymoedd byd-eang ar wleidyddiaeth a chymdeithas Cymru

Nod

Nod y cwrs hwn yw cynnig darlun cryno o hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru rhwng 1850 a 1997. Bydd y modiwl cyffredinol hwn yn creu cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr drafod cwestiynau o newid a pharhad, syniadaeth a hunaniaeth, gan sefydlu sylfaen gref gogyfer modiwlau Hanes Cymru yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Cynnwys

1. Cyflwyniad - Cymru yn 1850
2. Newid cymdeithasol ac economaidd, 1850-1900
3. Trefoli
4. Y wasg, crefydd a gwleidyddiaeth
5. Etholiad 'mawr' 1868 a'i ganlyniadau
6. Rhyfel y Degwm a Chymru Fydd
7. Y mudiad Pleidlais i Fenywod
8. Yr 'Aflonyddwch Mawr' ac undebaeth lafur
9. Cymru a'r Rhyfel Mawr
10. Cymru'r 20au - newid cymdeithasol a gwleidyddol, a streic 1926
11. Y Dirwasgiad Mawr
12. Plaid Cymru a Phenyberth - cenedlaetholdeb rhwng y rhyfeloedd
13. Dominyddiaeth y Blaid Lafur wedi 1945
14. Menywod yng Nghymru wedi 1945
15. Tryweryn a gwleidyddiaeth genedlaetholgar
16. Brwydr yr Iaith
17. Datganoli
18. Casgliadau

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.  
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.  
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.  
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.  
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.  
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth sylfaenol gadarn am brif themau sydd wedi cael effaith ar hanes a chymdeithas Cymru.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Beddoe, Deirdre (2000) Out of the shadows : a history of women in twentieth-century Wales Cardiff : University of Wales Press 0708315917
Cragoe, Matthew (2004) Culture, politics, and national identity in Wales, 1832-1886 Oxford ; New York : Oxford University Press 0198207549
Davies, John (1992) Hanes Cymru London : Penguin 0140125701
Evans, D. Gareth (1989) A history of Wales, 1815-1906 Cardiff : University of Wales Press 0708310281
Evans, D. Gareth (2000) A history of Wales, 1906-2000 Cardiff : University of Wales Press 0708315941
Francis, Hywel a Smith, Dai (1998) The Fed : a history of the South Wales miners in the twentieth century / Hywel Francis and Dai Smith. Cardiff : University of Wales Press 0708314228
Jones, R. Merfyn. (1999) Cymru 2000: hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru 0708316077
Morgan, Kenneth O (1995) Modern Wales : politics, places and people Cardiff : University of Wales Press 0708313175
Morgan, Kenneth O (1981) Rebirth of a nation : Wales 1880-1980 Oxford : Clarendon Press Cardiff : University of Wales Press
Osmond, John (editor) (1985) The national question again : Welsh political identity in the 1980�s Llandysul : Gomer 086383132X
Phillips, Dylan. (1998) Trwy ddulliau chwyldro ...? : hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1962-1992 Llandysul : Gwasg Gomer 1859025943
Tanner, Duncan, Williams, Chris and Hopkin, Deian (eds) (2000) The Labour Party in Wales : 1900-2000 Cardiff : University of Wales Press 0708317197
Williams, Chris (1998) Capitalism, community and conflict : the South Wales coalfield, 1898-1947 Cardiff : University of Wales Press 0708314732
Williams, Gwyn A. (1985) When was Wales? : a history of the Welsh London : Penguin 0140136436

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC