Cod y Modiwl HC31630  
Teitl y Modiwl GWRTHDARO A CHYDFODOLAETH - Y NORMANIAID HYD OWAIN GLYN DWR  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Karen Stoeber  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Elfennau Anghymharus WH32130  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Lectures  
  Seminarau / Tiwtorialau   9 seminars  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 3 AWR, AC IDDO 3 CHWESTIWN  60%
Asesiad Semester 1 TRAETHAWD X 2,500 O EIRIAU, 1 X 4,000 O EIRIAU  40%
Arholiad Ailsefyll3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 3 AWR AC IDDO 3 CHWESTIWN  60%
Asesiad Ailsefyll UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL  40%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Meddiannu ac adolygu'r feirniadol y wybodaeth hanesyddol sydd yn trafod hanes Cymru'r Oesoedd Canol yn ei chyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ehangach.   

Amgyffred y gwahanol ddadleuon a dadansoddiadau hanesyddol o'r testunau dan sylw, o'r Oesoedd Canol hyd heddiw.

Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol gan gynnwys tystiolaeth lenyddol.

Amgyffred y problemau hanesyddol sy'r ymwneud ag effaith ymsefydlu gan yr Eingl-Normaniaid ar gymdeithas Cymru'r Oesoedd Canol.

Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol.

Gweithio'r annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn gr'r.

Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.

Deall pwysigrwydd safleoedd hanesyddol a gwerthfawrogi eu rol fel tystiolaeth fyw.

Disgrifiad cryno

Mae'r cestyll a feddai Edward I yng Nghymru, sydd bellach yn adfeilion, yn atgof pwerus o oes o oresgyn a brwydro a barhai am nifer o ganrifoedd. Gan gychwyn gyda Goresgyniad y Normaniaid yn Lloegr a dyfodiad ymsefydlwyr Normanaidd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar ddeg, yn trafod esgyniad a chwymp tywysogion Cymru, ac yn gorffen gyda gwrthryfel Owain Glyn D'r yn y bymthegfed ganrif, amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r cyfnod hwn o frwydro a chydfyw a luniai drosodd a thro hynt Cymru a'r phobl yn yr Oesoedd Canol. Trafodir materion megis hunaniaeth genedlaethol gan ystyried newidiadau yng Nghymru'r Oesoedd Canol yn ystod y canrifoedd o anghydfod ac ymsefydlu, a bydd y materion hyn yn cael eu hegluro ymhellach trwy enghreifftiau llenyddol Cymraeg Canol. Bydd sefyllfa Cymru yn yr Oesoedd Canol yn cael ei gosod yn y cyd-destun ehangach, Ewropeaidd trwy asesu effaith gwleidyddiaeth, masnach, a rhyfel ar y gymdeithas yng Nghymru a'r berthynas rhwng yr elfennau hyn.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno hanes Cymru'r Oesoedd Canol a'r brwydr dros annibyniaeth yn ystod y canrifoedd rhwng y goresgyniad Normanaidd a gwrthryfel Owain Glyn D'r. Bydd y modiwl felly yn llenwi'r bwlch presennol yn y cyrsiau am hanes Cymru'r Oesoedd Canol, ac yn ehangu ymhellach yr opsiynau i fyfyrwyr sy'r dymuno astudio hanes Cymru.

Cynnwys

1. Cyflwyniad: asesu'r dystiolaeth ? ffynonellau canoloesol
2. Cymru cyn y Normaniaid
3. Y Normaniaid yng Nghymru ? cymdeithas ac economi
4. Y Normaniaid yng Nghymru ? crefydd a'r eglwys
5. Y Normaniaid yng Nghymru ? y Gororau
6. Oes y tywysogion (i)   
7. Oes y tywysogion (ii)
8. Oes y tywysogion (iii)
9. Cymru ac Edward (i)   
10. Cymru ac Edward (ii)
11. Cymru ac Edward (iii)   
12. Y Sistersiaid yng Nghymru
13. Y traddodiad llenyddol (i)
14. Y traddodiad llenyddol (ii)
15. Owain Glyn D'r ? Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg
16. Owain Glyn D'r ? y gwrthryfel
17. Owain Glyn D'r ? wedi'r gwrthryfel
18. Casgliadau

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.  
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.  
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir;  
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.  
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.  
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth fanwl o nifer o ffynonellau canoloesol yn Saesneg Canol a Chymraeg Canol (gyda chyfieithiadau); datblygu’r gallu o ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas.  

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
A.D. Carr (1995) Medieval Wales Llundain
A.O.H. Jarman and G.R. Hughes (eds.) (1997) A Guide to Welsh Literature, 1282-c.1550 Caerdydd
John Davies (1990) Hanes Cymru Llundain
R.R. Davies (2002) Owain Glyn Dŵr: Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru Talybont
R.R. Davies (1997) The Revolt of Owain Glyn Dŵr Rhydychen
R.R. Davies, (1986) The Age of Conquest: Wales 1063-1415 Rhydychen
Turvey, R. (2002) Welsh Princes: the native rulers of Wales, 1063-1283 Llundain
Walker, D (1990) Medieval Wales Caergrawnt
Williams, I.M. (ed.) (2002) Cronica Walliae Caerdydd
Williams, J (1860) Brut y Tywysogion Llundain

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC