Cod y Modiwl HCM1230  
Teitl y Modiwl DOSBARTH A CHYMUNED YNG NGHYMRU, C.1850-1950  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Paul B O'Leary  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus WHM1230  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   6 seminar dwy awr.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD 3,500 O EIRIAU  100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a defnyddio'r gwahanol gysyniadau a ddefnyddir gan haneswyr i ddadansoddi cymunedau yn y cyfnod hwn.

Arddangos dealltwriaeth o'r hanesyddiaeth berthnasol, ei esblygiad a'r problemau allweddol sy'n dwyn sylw haneswyr yn y maes.

Darllen a gwerthuso'r hanesyddiaeth yn effeithiol ar lafar ac ar bapur.

Gweithio'n annibynnol a gydag eraill.

Disgrifiad cryno

`Dosbarth cymdeithasol' a `chymuned' yw dau o'r cysyniadau allweddol a ddefnyddir gan haneswyr yn eu hymgais i ddeall cymdeithas Cymru fodern. Trwy gyplysu dosbarth a chymuned, mae haneswyr Cymru wedi cyfrannu'n fawr at ein dealltwriaeth o sut y crewyd hunaniaethau cymdeithasol mewn sefyllfaoedd arbennig. Yn y modiwl hwn, byddwn yn craffu ar y berthynas rhwng y ddau gysyniad pwysig yng nghyd-destun Cymru wedi 1850. Yn ogystal, bydd y modiwl yn archwilio'r safbwyntiau hanesyddiaethol newydd sy'n herio syniadau derbyniedig am `gymuned'. Er enghraifft, gofynnir i ba raddau y mae hanes merched mewn cymunedau dosbarth gweithiol yn cynnig darlun llai canmoladwy o'r ddelwedd gynnes o gymuned. Hefyd gofynnir i ba raddau y defnyddiwyd teimlad o gymuned i ymosod ar bobl o'r tu allan, yn arbennig mewnfudwyr a phobl o gefndiroedd ethnig gwahanol, megis y Gwyddelod a'r Iddewon.

Nod

Y mae'r MA fel cyfanwaith yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dealltwriaeth ddyfnach o bynciau allweddol yn Hanes Cymru ac yn darparu hyfforddiant o ran adnabod a dehongli y dystoliaeth hanesyddol berthnasol. Cynigai'r modiwl hwn agoriad i un o themau canolog hanes Cymru.

Cynnwys

Seminarau:
1. Llonyddwch cymdeithasol wedi 1850: cymuned v. dosbarth
2. Gwrthdaro cymdeithasol yn y cefn gwlad
3. Cymuned a dosbarth mewn trefi glofaol, 1870-1898
4. Gwrthdaro cymdeithasol ym maes glo'r De, 1898-1914
5. Gwrthdaro ethnig: mewnfudwyr a `chymuned'
6. Rhywedd a chymuned rhwng y rhyfeloedd

Sgiliau Modiwl

Datrys Problemau Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib.  
Sgiliau ymchwil Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd.  
Cyfathrebu Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau.  
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth  
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol  
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu.  
Rhifedd Gan ddibynnu ar destunau traethawd, gellir defnyddio gwybodaeth rifyddol sylfaenol er mwyn astudio maint daliadau tir, gwerthoedd rhent, prisiau cnydau a chyfoeth unigolion a theuloedd  
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa  

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 FfCChC