Cod y Modiwl MT10110  
Teitl y Modiwl GEOMETREG GYFESURYNNOL A FECTORAIDD  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor V Mavron  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Gareth Daniel Edward Lanagan, Dr Rolf Gohm  
Rhagofynion Mathemateg Safon Uwch (neu gyfartal).  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   1 awr 22 Awr (22 x 1 awr o ddarlithoedd MA10110 trwy gyfrwng y Saesneg).  
  Seminarau / Tiwtorialau   1 Awr 5 Awr (5 x 1 Awr o ddosbarthiadau tiwtorial).  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester Arholiad semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig100%
Asesiad Ailsefyll Arholiad ail-eistedd 2 awr: arholiad ysgrifenedig100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. adnabod cyfeiriadau syml yn ddadansoddiadol a geometrig.

2. darganfod hafaliadau sythlinau a dwyranyddion onglog.

3. mesur hyd tangiadau i gylch ac adnabod a yw dau gylch yn iawn-onglog.

4. mesur hafaliadau systemau cylch cyfechelin.

5. adnabod y math o ffurf gonig o ddadansoddi ei hafaliad.

6. mesur hafaliadau tangiadau a sythlinau conigau.

7. defnyddio fectorau i ddatrys problemau elfennol mewn geometreg.

8. mynegi cyfesurynnau pwynt cyffredinol cromliniau arbennig yn barametrig.

9. mesur lluosymiau sgalar a fector o ddau fector.

10. mesur lluosymiau sgalar a fector triphlyg o dri fector.

11. mesur hafaliadau fector llinellau a phlanau.

12. mesur yr ongl rhwng dau blân a'r pellter byrraf rhwng pwynt a phlân.

13. datrys problemau elfennol mewn cinemateg.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o syniadau hanfodol geometreg - pwyntiau, llinellau, cromliniau, planau ac arwynebau - mewn dull dadansoddiadol, yn defnyddio iaith geometreg gyfesurynnol. Caiff conigau eu dosbarthu yn nhermau eu hafaliadau a nodweddion geometreg. Mae'r cysyniad o dangiad a sythlin hefyd yn cael ei ddatblygu.

Nod

I ddatblygu dealltwriaeth o geometreg a'r allu i ystyried problemau geometrig yn ddadansoddiadol, felly hefyd y ffordd arall.

Sgiliau Modiwl

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Argymhellwyd
Giordano, Frank R. (2005.) Thomas' calculus :based on the original work /by George B. Thomas Jr.; as revised by Maurice D. Weir, Joel Hass, Frank R. Giordano. 11th ed.. Addison-Wesley 0321243358
** Testun Ychwanegol Atodol
Stewart, James (2001.) Calculus :concepts and contexts /James Stewart. 2nd ed.. Brooks/Cole 0534377181

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC