Cod y Modiwl MT14010  
Teitl y Modiwl DYNAMEG A PHERTHNASEDD  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Eleri Pryse  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro Keith Birkinshaw, Gareth Daniel Edward Lanagan  
Rhagofynion Mathemateg Safon Uwch  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   1 awr 20 x sesiynau 1-awr o ddarlithoedd MP14010 a dosbarthiadau esiampl (darlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg)  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester Arholiad semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig70%
Asesiad Semester Asesiad semester Gwaith cwrs: 2 taflen asesiad30%
Asesiad Ailsefyll Arholiad ail-eistedd 2 awr: arholiad ysgrifenedig100%

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. disgrifio egwyddorion sylfaenol Dynameg a Pherthynoledd Arbennig.

2. modelu problemau mewn dynameg a pherthynoledd arbennig gydag hafaliadau mathemategol, cymhwyso technegau datrys elfennol i'r hafaliadau hyn a dehongli'r canlyniadau mewn cyd-destun ffisegol gwreiddiol.

3. datrys problemau rhifol mewn dynameg llinellol a chylchdro ac mewn perthynoledd arbennig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i'r ddamcaniaeth glasurol o ddynameg a'r ddamcaniaeth o berthynoledd arbennig. Bydd y problemau sy'n cael eu trafod mewn dynameg yn cynnwys cinemateg clasurol, Cyfreithiau Newton, egni a momentwm a mudiant o dan ddisgyrchiant. Bydd goblygiadau yr egwyddorion o berthynoledd arbennig ar gyfer y cysyniadau o ofod ac amser hefyd yn cael eu hastudio. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar ddatrys problemau a bydd taflenni esiampl yn cynnwys ymarferion rhifol.

Nod

Mae'r modiwl yn datblygu egwyddorion a thechnegau dynameg a pherthynoledd, gyda phwyslais ar ddatrys problemau, ac mae'r cwrs yn addas fel modiwl craidd ar gyfer cynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg. Mae'r modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth uwch o'r pynciau hyn fel yn MP21010.

Sgiliau Modiwl

Rhestr Ddarllen

Llyfrau
** Testun A Cyffredinol
French, A. P. (1968 [unspecifi) Special relativity /A.P. French. CRC Press 0748764224
** Testun A Argymhellwyd
Tipler, Paul Allen (2004.) Physics for scientists and engineers /[Paul A. Tipler, Gene Mosca] 5th edition.. W.H. Freeman 0716743892

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC