Cod y Modiwl OC35520  
Teitl y Modiwl Y DYMER FEIRNIADOL  
Blwyddyn Academaidd 2007/2008  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Ursula Byrne  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Theodore R Chapman  
Elfennau Anghymharus  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester   

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Trafod cysyniadau beirniadol


2. Deall beirniadaeth lenyddol yn ei chyd-destun diwylliannol a chymdeithasol ehangach

3   Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi cyfraniad beirniadaeth gan ddefnyddio ystod o dechnegau beirniadol

Nod

Datbygu dealltwriaeth o sawl model theoretig.
Dangos dealltwriaeth o'r cyfatebiaethau a'r gwahaniaethau rhwng y modelau hyn.
Cymhwyso a phrofi gwerth y modelau hyn mewn perthynas a thestunau Cymraeg.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad amseryddol bras i ystod o ddamcaniaethau llenyddol/athronyddol,:o'r byd clasurol (Platoniaeth/Aristoteliaeth) trwy'r Oesoedd Canol a'r Dadeni a beirniadaeth eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyflwynir myfyrwyr i brif ffrydiau theoretig yr ugeinfed ganrif, ac edrychir ar rai o brif feirniaid llenyddol y Gymraeg.

Sgiliau trosglwyddadwy

Cynnwys

1-2 Beirniadaeth yn y Cyfnod Clasurol: Platon ac Aristotles

3. Beirniadaeth yn yr Oesoedd Canol

4. Y Dadeni Dysg a'r waddol syniadol

5. Clasuraeth a'r Gymraeg: Morrisiaid Mon

6. `Coleg Cenedl?: yr Eisteddfod a safonau beirniadaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg

7-8   John Morris-Jones, F. R. Leavis a'r cysyniad canonaidd

9.   Lleisiau tramor 1: y Traddodiad Marcsaidd

10 Lleisiau tramor 2: Ffurfiolwyr Rwsia

11. Seminar 1: trafod testun beirniadol yn ymwneud ag agweddau ar ddarlithoedd 12-17

12. Strwythuraeth ac Ol-strwythuraeth

13. Beirniadaeth seicoddadansoddol

14. Moderniaeth a'r Feirniadaeth Newydd

15. Ol-foderniaeth

16. Ffeministiaeth

17. Beirniadaeth ol-drefedigaethol

18. Seminar 2: trafod testun beirniadol yn ymwneud ag agweddau ar ddarlithoedd 19-22

19 Lleisiau Cymraeg 1: W. J. Gruffydd a Dyneiddiaeth Radicalaidd

20. Lleisiau Cymraeg 2: Saunders Lewis a'r `Estheteg Gymreig?

21. Lleisiau Cymraeg 3: R. M. Jones a'r Traddodiad Mawl

22. Lleisiau Cymraeg 4: Beirniadaeth Gyfoes a Hunaniaeth   
[Nid o reidrwydd yn y drefn hon y cyflwynir y darlithiau a'r seminarau]

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC