ENGLISH

 
 

GWAHODDIAD

 

 

Ffair Astudiaethau Uwchraddedig

Prifysgol Aberystwyth

Dydd Fercher, 4ydd Tachwedd 2009

3-00 y.h. tan 7-00 y.h.

 

The Joint, Undeb y Myfyrwyr

Campws Penglais

Prifysgol Aberystwyth

 

 

Astudiaethau Uwchraddedig – Canfyddwch fwy……

 

Estynir gwahoddiad cynnes i fyfyrwyr Aberystwyth i'r Ffair Astudiaethau Uwchraddedig. Dyma'r nawfed Ffair Astudiaethau yn Aberystwyth a bydd yn dilyn trefn tebyg i llynnedd. Mae’r digwyddiad wedi ei anelu’ bwrpasol at y rhai sydd eisiau astudio am radd Meistr, Tystysgrif neu Diploma Uwchraddedig neu hyd yn oed PhD yn Aberystwyth. Dyma gyfle i fyfyrwyr Aberystwyth i ganfod fwy am ein darpariaeth uwchreddedig.

Bydd rhaglen o sgyrsiau pwrpasol yn ystod y Ffair. Bydd hefyd cyfle i holi staff academaidd a staff gweinyddol ynghylch y profiad o fod yn fyfyriwr uwchraddedig yn Aberystwyth. 

Bydd te, coffi a bisgedi ar gael ond bydd rhaid i chi rhag-gofrestru ar gyfer y Ffair.

 

 

142-Biology-4554.jpg

189-Law_LPC-4531.jpg

125-4921.jpg

161-SMAB-PG-6446.jpg

161-SMAB-PG-6176.jpg

125-0641.jpg

 

 

Pam mynychu’r Stondin Uwchraddedig yn y Dydd Agored?

  • Cyfle i drafod manylion cyrsiau uwchraddedig galwedigaethol ac astudiaethau ymchwil.

  • Cyfle i gyfarfod staff academaidd o wahanol adrannau yn ein Prifysgol er mwyn i chi drafod ein cyrsiau ac agweddau eraill o astudiaethau uwchraddedig yn Aberystwyth.

  • Cyfle i drafod materion ariannol, cyfleon am ysgoloriaethau a Benthyciadau Datblygu Gyrfa.

  • Cyfle i drafod y broses dderbyn ar gyfer astudiaethau uwchraddedig gyda staff Swyddfa Derbyn Graddedigion.

 

 

 

Manteision astudiaethau uwchraddedig yn Aberystwyth

  • Ennill gradd Meistr i ychwanegu at eich sgiliau presennol neu i ddysgu sgiliau newydd os dymunwch newid cyfeiriad eich gyrfa.

  • Gweithio tuag at radd ymchwil i ddefnyddio eich gwybodaeth ac i ddarganfod mwy am eich pwnc.

  • Cydnabyddir bod cymdeithas gyfeillgar a chefnogol yn Aberystwyth a bod yma hefyd gymdeithas glós o uwchraddedigion.

  • Mae ein myfyrwyr uwchraddedig yn elwa o gael Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig dan ofal ein Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig.

  • Costau byw isel o’u cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

  • Lleolir y Brifysgol mewn rhan prydferth o Gymru lle mae nifer y troseddau yn isel iawn.

  • Mae Aber gyda un o lefelau incwm ymchwil uchaf am y nifer o staff academaidd o unrhyw brifysgol ym Mhrydain.

  • Safonau dysgu ardderchog.

  • Cyflusterau ymchwil gwych gan gynnwys mynediad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

 

Cyniga’r adrannau canlynol o’n Prifysgol gyfleoedd ymchwil a chyrsiau Meistr:

Addysg a Dysgu Gydol Oes
Hanes a Hanes Cymru
Astudiaethau Gwybodaeth Ieithoedd Ewropeaidd
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Mathemateg a Ffiseg (ymchwil yn unig)
Celf Rheolaeth a Busnes
Cyfrifiadureg

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Seicoleg
Gwleidyddiaeth Ryngwladol Y Gyfraith a Throseddeg
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (ymchwil yn unig)

Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig  

 

 
Cofrestrwch ar-lein

 

 

Am fanylion pellach:

Rachel Tod

Swyddfa Derbyn Graddedigion,

Canolfan Croesawu Myfyrwyr

Prifysgol Aberystwyth

Penglais

Aberystwyth.

Ceredigion  SY23 3FB

 

Ffôn: 01970 622270

Ffacs: 01970 622921

E-bost: pg-admissions@aber.ac.uk

Gwefan: www.aber.ac.uk

 

 

 

 

 

 

 


 

 
*  Gwefan Prifysgol Aberystwyth * Gwefan Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion


Swyddfa Derbyn Graddedigion

Swyddfa Dernyn Graddedigion, Canolfan Croesawu Myfyrwyr

Prifysgol Aberystwyth,

Penglais, ABERYSTWYTH SY23 3FB

 

 Ffôn: +44 (0) 1970 622270, Ffacs: +44 (0) 1970 622921,

E-bost: pg-admissions@aber.ac.uk , Gwefan: www.aber.ac.uk/pga/