Campus views 

Mae Adran Gwasanaethau Tŷ y Gwasanaethau Preswyl a Chroeso yn darparu amrhywiaeth o wasanaethau mewnol, megis porthora, glanhau a gwaith diogelwch i'r sector academaidd ynghyd â gwasanaeth derbynfa a ffôn ar y campws.

Gwasanaethau yn yr Adeiladau Academaidd

Mae'r rhain yn cynnwys agor a chau yr adeiladau, glanhau, porthora, gwaredu gwastraff, darparu celfi a gwasanaethau cyffelyb.

Diogelwch yn y Brifysgol

Mae ein swyddogion yn goruchwylio ystâd y Brifysgol ac yn gweithredu rheolau traffig a pharcio.

Y Dderbynfa a Gwasanaethau Ffôn

Ni sy'n gyfrifol am redeg Derbynfa Campws Penglais a gwasanaeth y cysylltydd ffôn.