|
|
Ceir yn agos at 2000 o lefydd parcio yn Aberystwyth sy'n berchen i'r Brifysgol neu a reolir ganddi. Mae rheoliadau Traffig a Pharcio'r Brifysgol yn allweddol mewn cymdeithas lle ceir mwy o gerbydau nag o fannau i'w parcio. Mae'n rhaid i bob cerbyd sy'n cael ei barcio ar y campws ddangos trwydded barcio ddilys neu docyn talu ac arddangos dilys. Rhoddir mwy o drwyddedau parcio ar y ddealltwriaeth na fydd pawb yn dod â char i'r campws bob dydd. Pwy sy'n gymwys i dderbyn trwydded parcio?
Ni roddi ystyriaeth i geisiadau am drwyddedau parcio gan fyfyrwyr sy'n byw yn Aberystwyth a'r ardal gyfagos, a disgwylir i'r myfyrwyr hynny gerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sut i wneud cais am drwydded parcio:Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am drwydded parcio myfyrwyr. Cliciwch yma am ffurflen gais am drwydded parcio staff neu casglwch ffurflen o Dderbynfa
Campws Penglais. Cliciwch yma am ffurflen gais am drwydded
parcio Clwb Chwaraeon 300 neu casglwch ffurflen o Dderbynfa Campws Penglais. Pryd fydda' i'n derbyn y drwydded newydd?Cewch dderbyn y drwydded newydd yn ystod Wythnos y Glas, neu'r bythefnos ddilynol, oherwydd byddwn yn gweithredu'r rheoliadau traffig yn llym o ddydd Llun 15 Hydref 2012. Pryd allaf i gasglu trwydded?Bydd swyddfa'r trwyddedau parcio ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 1pm yn ystod Wythnos y Glas. Yn dilyn y pythefnos hyn bydd y swyddfa ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 10am a rhwng 1pm a 2pm. Amrywir yr oriau hyn yn ôl yr angen. Faint mae trwydded parcio yn costio?Cymeradwyir ffioedd parcio gan Bwyllgor Cyllid ac Amcanion Cyffredinol y Brifysgol ac fe'i hadolygir yn flynyddol. Y ffioedd ar gyfer parcio yn ystod blwyddyn academaidd 2012 - 2013 yw: Myfyrwyr
Staff (fesul mis)
Clwb 300
Ble gallaf i barcio?Penglais: Gogerddan: Taliadau eraillTalu ac Arddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau
Canolfan Chwaraeon (Cawell) a'r Maes Parcio Talu ac Arddangos
Cerbyd adrannol: am ddim Beth sy'n digwydd os byddaf yn torri'r rheoliadau parcio?Cliciwch yma i weld Rheoliadau Parcio PA Ble gall staff barcio ar y campws?Bydd staff yn gallu parcio yn yr ardal parcio i staff ym maes parcio S1 ac yn yr ardaloedd parcio eraill o gwmpas y campws fel arfer. Dyma fap sy'n arddangos y meysydd aur ar gyfer staff: http://bit.ly/UuCiWV Lle fydd myfyrwyr yn gallu parcio ar y campws?Bydd myfyrwyr yn gallu parcio fel arfer ym meysydd parcio eu neuaddau preswyl. Dyma fap sy'n arddangos at yr ardal parth coch ar gyfer myfyrwyr: http://bit.ly/UuCiWV Lle bydd ymwelwyr / aelodau'r clwb chwaraeon yn parcio?Mae llefydd parcio newydd ar gyfer aelodau o Glwb Chwaraeon (Clwb 300) y Brifysgol ac mae ganddo tua 40 bae parcio (C21). Mae maes parcio arall ar
gael hefyd, maes parcio fwy a leolir wrth ymyl y Gawell Chwaraeon (C3), un a chanddo tua 50 o lefydd parcio. Mae'r maes parcio C3 yn ardal talu ac
arddangos newydd, ond mae'n rhad ac am ddim am y 2 awr gyntaf i'r rhai hynny sy'n aelodau o Glwb 300 heb dychwelyd mewn 1 awr. Fe fydd ymwelwyr angen
talu ac arddangos ac hefyd yn gallu parcio hyd at 2 awr heb dychwelyd mewn 1 awr. Faint o feysydd parcio talu ac arddangos sydd ar y campws?Mae dau. Mae'r un mwyaf wrth ymyl Canolfan y Celfyddydau ac mae'r llall wedi'i leoli wrth y Gawell Chwaraeon, i lawr y ffordd o'r Ganolfan Chwaraeon a adwaenir fel C3. Mae map ar gael yma: http://bit.ly/UuCiWV A fydd rhaid i staff yng Ngogerddan dalu?Bydd. Er mwyn gwneud parcio yn system deg yn y Brifysgol, fe fydd hi'n ofynnol i staff sydd angen parcio yn ardaloedd y Brifysgol (Gogerddan, Llanbadarn, yr Ysgol Gelf a'r Hen Goleg) i dalu ffi parcio yn fisol. Bydd yr unigolion hynny, wrth gwrs, yn gallu parcio am ddim yn unrhyw le o fewn y parthau aur ar y campws. Mae map ar gael yma: http://jump.aber.ac.uk/?mjxn Pa gosbau allai ddod i'm rhan pe bawn yn parcio heb drwydded barcio neu daleb?Fe fydd y system barcio newydd yn dod i rym o'r 1af o Hydref ymlaen. Fe fydd cyfnod o hyblygrwydd tan yr 8ed o Hydref i alluogi staff a myfyrwyr i
sicrhau trwydded barcio. Ar ba adegau yn ystod y dydd mae'r cyfyngiadau talu ac arddangos yn berthnasol ar y campws?Wrth barcio, edrychwch ar y wybodaeth ar y bwrdd talu ac arddangos. Bydd hwn yn datgan y cyfyngiadau amser. Ar ba adegau y mae'r cyfyngiadau parcio staff yn berthnasol ar y campws?Mae cyfyngiadau parcio mewn ardaloedd staff yn weithredol rhwng yr oriau 08.00 i 17.30. Y tu allan i'r oriau hyn, gall meysydd parcio staff gael eu defnyddio gan ymwelwyr. Mae parcio ar linellau melyn dwbl, croesfannau cerddwyr a mannau darparu yn waharddedig. |

