
Ceir hyd i Ganolfan Ffôn a
Derbynfa Penglais wrth y fynedfa i Gampws Penglais, gan droi ychydig i'r chwith
oddi ar yr A487 i mewn i Aberystwyth. Bwriad y ganolfan yw darparu gwasanaeth
dderbyn gyfeillgar, ddefnyddiol a phroffesiynol i'r sawl sy'n ymweld neu'n
ffonio. Mae Teithlyfr i Ymwelwyr, mapiau o'r campws a phrospectysau ar gael i'r
rheini sy'n ffonio. Rhennir y ganolfan gyda swyddfa Diogelwch y Brifysgol.
Oriau Agor:
Mae Derbynfa Penglais ar agor o 0845 i 1715 dydd Lun i ddydd Gwener ac ar gau
ar benwythnosau, gwyliau banc a dyddiau eraill pan fo'r Brifysgol ar gau.
I gysylltu â'r Gwasanaethau Brys:
Y Frigâd Dân,
Ambiwlans, Heddlu, Gwylwyr y Glannau: deialwch 222 (o deleffon mewnol).
Cyfeirir y galwadau argyfwng 222 i Dderbynfa Campws Penglais yn ystod
oriau agor ac fe'u hailgyfeirir yn awtomatig i 999 wedi oriau cau.
Nam ar Ffôn Mewnol :
I gofnodi nam neu ffôn nad yw'n
gweithio, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth ar 2400 neu is@aber.ac.uk.
|