![]() |
Blaenddalen Map o'r Safle Chwilio'r Wefan Cysylltwch â Ni English |
|
| Amdanom Ni | Gwasanaethau Tŷ | ||||
| Blaenddalen Adeiladau Academaidd Diogelwch yn y Brifysgol Y Dderbynfa a Gwasanaethau Ffôn | |||||
Y Dderbynfa a Gwasanaethau Ffôn |
1.0 PWYNTIAU CYFFREDINOL1.1 Mae Rheoliadau Traffig a Pharcio’r Brifysgol wedi cael sêl bendith Cyngor y Brifysgol ac, heblaw’r eithriadau a nodir yn y rheoliadau hyn, maent yn berthnasol i’r staff, y myfyrwyr a’r cyhoedd sy’n defnyddio cerbydau modur ar diroedd y Brifysgol. 1.2 Rhaid i’r sawl sy’n defnyddio neu barcio cerbyd modur ar eiddo’r Brifysgol: a) derbyn cyfrifoldeb amdanynt hwy eu hunain, eu cyd-deithwyr, y cerbyd a chynnwys y cerbyd; b) dilyn holl ddarpariaethau’r gyfraith sy’n ymwneud â defnyddio cerbydau ar ffyrdd cyhoeddus, yn ogystal â gofynion ychwanegol y rheoliadau hyn; c) cydymffurfio â therfyn cyflymder y safle (sef 20 mya), yn ogystal â’r arwyddion sy’n rheoli sut mae defnyddio a pharcio cerbydau, ac unrhyw gyfarwyddiadau priodol a roddir gan y Staff Diogelwch. 1.3 Mae’r gweithredoedd isod wedi’u gwahardd yn llwyr ar eiddo’r Brifysgol: a) gyrru neu barcio ar lwybrau, ymylon ffyrdd neu ar y glaswellt; b) parcio heb awdurdod mewn lleoedd parcio a neilltuwyd i bobl eraill; c) parcio a defnyddio carafanau, campafanau neu gerbydau tebyg i aros dros nos; ch) parcio mewn mannau y mae’r gwasanaethau brys eu hangen er mwyn cyrraedd y safle; d) parcio ar ochr y ffordd; ac eithrio mewn mannau sydd wedi’u marcio fel lleoedd parcio dd) gwneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw ar gerbydau; e) gyrru gan bobl sy’n dysgu gyrru 1.4 Mae natur safleoedd y Brifysgol a’r maint o bobl sy’n cerdded yn golygu eu bod yn lleoedd anodd i yrru cerbydau modur. Er y gwneir pob ymdrech i gadw cerddwyr a cherbydau ar wahân, cyfrifoldeb y gyrwyr yw bod yn effro i symudiadau cerddwyr ac i yrru yn briodol. Yn gyffredinol, cerddwyr sy’n cael y flaenoriaeth ar gerbydau modur. 2.0 PARCIO CEIR2.1 Rhaid i gerbydau modur a barciwyd mewn lleoedd parcio a farciwyd ddangos trwydded barcio ddilys. Dangosir y lleoedd parcio ar y map amgaeedig. Nid oes angen trwydded barcio i barcio ar safleoedd nad ydynt wedi eu cynnwys ar y map, fel y Ffermydd a’r Meysydd Chwaraeon. 2.2 Mae’r trwyddedau parcio yn cyfyngu parcio i’r lleoedd parcio a nodir. Rhaid cydymffurfio â’r cyfyngiadau hyn yn ystod yr oriau craidd sef o 8 o’r gloch y bore hyd 6 o’r gloch yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i’r oriau craidd, caiff deiliaid trwyddedau parcio ddefnyddio unrhyw le parcio a nodir sydd ar gael ac eithrio y rhai a nodir yn rhai Cyfyngedig. 2.3 Rhaid i unrhyw aelod o’r staff sydd am barcio cerbyd mewn lle parcio a nodir gofrestru’r cerbyd ymlaen llaw a chael trwydded barcio (gweler Adran 3). Rhaid cofrestru hefyd gerbydau sy’n eiddo i adran neu’n cael ei logi gan adran. 2.4 Rhoddir cod lliw i drwyddedau parcio i ddangos lle y ceir parcio: a) Cyfyngedig – mae trwydded werdd yn ddilys i barcio yn y meysydd parcio i gyd; b) Canolog – mae trwydded glas yn ddilys i barcio yn y meysydd parcio Canolog, rhai’r Cyrion a meysydd parcio’r Neuaddau; c) Neuaddau – mae trwydded coch yn ddilys i barcio ym meysydd parcio’r Neuaddau yn unig; ch) Anabl – rhoddir trwydded gunmetal i yrwyr a gofrestrwyd yn anabl ac mae’n caniatáu parcio ym mhob maes parcio; d) Penodedig – rhoddir trwydded magenta i hyrwyddo parcio mewn meysydd parcio penodedig yn unig. (Rhoddir mewn amgylchiadau eithriadol). dd) Rhoddir trwydded las golau benodedig i unigolion neu grwpiau (clwb 300) sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth i ganiatáu iddynt barcio mewn meysydd parcio Allanol yn unig. Rhoddir trwydded benodedig hefyd i ganiatáu parcio mewn meysydd parcio penodedig (caiff rhain eu rhoi mewn amgylchiadau eithriadol yn unig). 2.5 Rhaid dangos y drwydded barcio mewn lle amlwg y tu mewn i ffenestr flaen y car neu’n amlwg ar feic modur. 2.6 I sicrhau diogelwch ar y safle dylai deiliaid trwyddedau roi gwybod i’r Staff Diogelwch am unrhyw gerbydau a fydd yn cael eu gadael dros nos yn y Meysydd Parcio Canolog neu rai’r Cyrion. 2.7 Nid oes rhyw batrwm rheolaidd o ran sut mae’r meysydd parcio yn cael eu defnyddio ac mae hynny’n golygu bod modd rhoi mwy o drwyddedau na’r nifer o leoedd parcio sydd ar gael. Er mwyn manteisio ar y sefyllfa honno, ni roddir ond ychydig o leoedd parcio cyfyngedig a lleoedd a neilltuwyd, a hynny dim ond lle bod eu hangen, megis: a) mannau llwytho cerbydau adrannol; b) gyrwyr anabl; c) arosfannau tacsis; ch) lle mae cyn lleied o leoedd ar gael na fydd modd caniatáu parcio cyffredinol 3.0 COFRESTRU CERBYDAU MODUR3.1 Mae ffurflenni cais i gofrestru cerbyd modur er mwyn cael trwydded barcio ar gael o’r Staff Diogelwch a dylid ei llenwi a’i hanfon yn ôl gyda’r tâl priodol a ddangosir ar y ffurflen. 3.2 Ceir gwneud cais am drwydded barcio unrhyw bryd ar ôl 1 Medi, ac fe fydd yn ddilys o ddechrau’r sesiwn academaidd ym mis Medi hyd 30 Medi y flwyddyn wedyn. 3.3 Ni fydd gwaith prosesu ceisiadau myfyrwyr yn cychwyn tan ar ôl i’r myfyrwyr gofrestru. 3.4 Caiff adrannau brynu trwyddedau priodol a’u rhoi yn barhaol neu dros dro i aelodau o’u staff os bydd yr aelodau hynny yn ymweld â safle lle y mae angen trwydded barcio ac yn defnyddio eu cerbydau modur preifat eu hunain wrth wneud gwaith i’r adran. 3.5 Mae aelodau o’r staff sy’n berchen ar fwy nag un cerbyd modur yn gallu cael rhagor o drwyddedau yn ddi-dâl ar yr amod na fydd mwy nag un cerbyd yn cael ei barcio ar diroedd y Brifysgol ar yr un pryd. 3.6 Dylai deiliad trwydded barcio sy’n cael gwared ar ei gerbyd ildio ei drwydded yn syth i’r Staff Diogelwch a byddant hwy naill ai yn rhoi trwydded newydd i’w gerbyd newydd neu roi peth o’r tâl yn ôl, os bydd hynny’n briodol. 3.7 Nifer gyfyngedig o leoedd parcio sydd ar gael ac mae’n rhaid rheoli’r nifer o drwyddedau a roddir er mwyn sicrhau cydbwysedd bras rhwng y galw a’r nifer o leoedd. Os bydd y galw yn fwy na’r cyflenwad bydd angen rhyw ffordd o flaenoriaethu ac, os felly, gofynnir am gymorth Penaethiaid yr Adrannau a Rheolwyr y Neuaddau. Er gellir gwneud ceisiadau ar unrhyw adeg, efallai y bydd hi’n anodd cyflawni’r ceisiadau a wnaed ar ôl dechrau’r sesiwn. 4.0 YMWELWYR4.1 Rhaid i ymwelwyr, gan gynnwys aelodau o’r staff a myfyrwyr na chawsant drwydded barcio ddilys, ddefnyddio’r lleoedd parcio penodol a ddarperir i ymwelwyr, er enghraifft y maes parcio lle efallai y bydd angen prynu tocyn o beiriant. 4.2 Gellir anfon Trwydded Barcio Undydd ymlaen llaw at ymwelwyr achlysurol i’r adrannau. Bydd y drwydded hon yn golygu y bydd modd i’r ymwelwyr barcio mewn maes parcio sy’n fwy cyfleus iddynt. Mae Trwyddedau Parcio Undydd ar gael ar gais oddi wrth wasanaeth Diogelwch y Safle yn ddi-dâl. Fel arall y gallai’r adrannau wneud cais i’r gwasanaethau Diogelwch baratoi Trwydded Barcio Undydd a’i rhoi i ymwelwyr achlysurol pan fyddant yn mynd i Dderbynfa Campws Penglais. 4.3 Dylai’r adrannau gydlynu â’r Staff Diogelwch mewn da bryd os byddant yn trefnu cynadleddau, seminarau neu ddigwyddiadau arbennig eraill. Gellid ystyried a chytuno ar drefniadau parcio arbennig felly er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith ar weithgarwch arferol y Brifysgol ag y bo modd. 4.4 Bydd aelodau o glybiau, grwpiau a chymdeithasau cysylltiedig megis y Ganolfan Chwaraeon, yn ogystal ag aelodau o’r staff sydd wedi ymddeol, etc, yn cael Trwydded Clwb 300 a chodir tâl arnynt. 4.5 Bydd contractwyr a gweithwyr allanol eraill yn cael eu trin fel ymwelwyr achlysurol (Gweler para 4.2) 5.0 TALIADAU COFRESTRU5.1 Cyngor y Brifysgol sy’n penderfynu ar brisiau’r taliadau ac yn eu hadolygu bob blwyddyn. Dyma’r telerau arbennig sydd ar gael: a) Beiciau modur – 50% gostyngiad b) Gyrwyr anabl – yn ddi-dâl c) Ymwelwyr achlysurol – yn ddi-dâl. (Gweler paragraffau 4.2 a 4.5) 5.2 Os rhoddir trwydded am ran o’r flwyddyn yn unig, codir tâl pro rata yn ogystal â thâl gweinyddol, neu’r tâl llawn os bydd hwnnw’n costio llai. 5.3 Gellir rhoi trwyddedau yn ôl, os na fydd eu hangen bellach, a chael ad-daliad pro rata, wedi tynnu tâl am gostau gweinyddol. 6.0 COSBAU6.1 Gallai unrhyw gerbyd sydd wedi ei barcio yn groes i’r rheoliadau hyn gael ei glampio a bydd angen talu er mwyn rhyddhau’r cerbyd. 6.2 Rhaid symud unrhyw gerbyd y bernir ei fod yn anaddas i yrru ar y ffordd neu ei fod wedi ei adael yno. Os na fydd perchennog y cerbyd wedi symud y cerbyd oddi ar y safle o fewn y 30 diwrnod ar ôl cael rhybudd ysgrifenedig, bydd y Brifysgol yn trefnu i’r cerbyd gael ei gasglu ac y ceir gwared arno yn ôl ei disgresiwn ei hun, gan adennill unrhyw gostau cysylltiedig. Ni fydd y Brifysgol na’i swyddogion yn gyfrifol am unrhyw niwed a achosir i gerbyd yn yr amgylchiadau hyn. 6.3 Mae cyfundrefn ar waith gan y Staff Diogelwch i roi Hysbysiadau Rhybuddio priodol er mwyn rhybuddio defnyddwyr eu bod yn torri’r rheoliadau. Os bydd defnyddwyr sy’n methu â chydymffurfio â’r rheoliadau hyn yn gyson neu sy’n ymddwyn mewn modd sy’n beryglus neu’n anystyriol i ddefnyddwyr eraill ar y campws, gellir tynnu eu trwyddedau parcio yn ôl a/neu glampio eu cerbydau. 7.0 GORFODI AC APELIO7.1 Gwasanaethau Diogelwch y Safle sy’n gyfrifol am weithredu a gorfodi Rheoliadau Traffig a Pharcio’r Brifysgol ac felly y maent wedi eu cofrestru ag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch yn unol â Deddf y Diwydiant Diogelwch Preifat 2001. 7.2 Gorfodir y rheoliadau o ran clampio a symud cerbydau oddi ar diroedd y Brifysgol yn unol ag ysbryd y Cod Ymarfer ar Glampio a Symud Cerbydau oddi ar Dir Preifat ac mewn Meysydd Parcio Preifat sy’n Agored i’r Cyhoedd a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Parcio Prydain. Gellir gweld y cod hwnnw yn http://www.britishparking.co.uk/ 7.3 Mae trefn gwyno ac apelio ffurfiol wedi ei sefydlu ac fe gewch ei gweld yn Cwynion Traffig a Pharcio |