Glanhau a Phorthora
Amserau agor y Adeilad
Celfi, Arwyddion a Darparu Allweddi
Gwaredu Gwastraff ac Ailgylchi

Ceir gwared â sbwriel cyffredin swyddfeydd, megis papur a chardfwrdd, yn feunyddiol gan y porthorion a'r staff glanhau. Mae'r Gwasanaethau Tŷ yn ymroddedig i leihau swm y gwastraff hwn trwy gydweithio'n agos â'r Cynghorydd Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd, a thrwy annog adrannau i ailddefnyddio ac ailgylchu. Ymhlith y deunydd y gellir eu hailgylchu mae:

  • Papur
  • Cardfwrdd
  • Cetris Argraffu ac Arlliw
  • Ffonau Symudol
  • Caniau Diodydd
  • Poteli Plastig
  • Gwydr
  • Tecstiliau a Sgidiau
  • Batris

Mannau Ailgylchu Prifysgol Aberystwyth

Ceir mannau ailgylchu ledled y campws, y tu fewn i adeiladau a thu allan. Cliciwch ar y un or tair linc isod i gweld y man ailgylchu agosaf.

Gwastraff Cyfrinachol

Os nad oes gan eich adran beiriant rhwygo ei hun, neu os oes cryn dipyn o deunydd yr ydych angen ei ddifa, mae gan y Brifysgol wasanaeth gwastraff cyfrinachol.

  • Mae Sachau Gwastraff Cyfrinachol ar gael gan eich gofalwr lleol neu wrth trefnu gyda Swyddog or Gwasanaethau Tŷ ar estyniad 2822 neu 8519.
  • Ni ddylid llenwi'r sachau mwy na thri chwarter llawn. Pan fyddant yn llawn, dylid eu clymu yn dynn gyda'r clymwr plastig a ddarperir.
  • Cysylltwch â'ch gofalwr lleol er mwyn trefnu casglu'r sachau a chofiwch gadw gwastraff cyfrinachol mewn man diogel bob amser.
  • Mae'r gwasanaeth hwn yn ddrud a dylid ei ddefnyddio ar gyfer deunydd cyfrinachol yn unig.

Offer T.G Diangen

Mae'r Gwasanaethau Tŷ yn gweithio hyd eithaf eu gallu i ailddefnyddio offer T.G diangen, trwy weithredu trefniant gwaredu sy'n golygu bod y deunydd yn cael ei drwsio pan fo'n bosibl - gweler trefniadau gwaredu offer T.G. diangen.

Cyfrifoldeb adrannau unigol yw cael gwared o offer heblaw deunydd cyfrifiadurol sy'n ddiangen, megis deunydd o weithdy neu labordy.