![]() |
||||||||||
![]() |
||||||||||
|
Astudiaethau Celtaidd Y mae Adran y Gymraeg yn Aberystwyth yn un o'r prif ganolfannau prifysgol yng ngwledydd Prydain ar gyfer astudio'r ieithoedd Celtaidd, eu llenyddiaethau a'u diwylliannau. Yr ydym yn cynnig cynllun gradd uchelgeisiol dan gyfarwyddyd yr Athro Patrick Sims-Williams, FBA, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio Gwyddeleg yn ogystal â'r Gymraeg, a gellir astudio Llydaweg a Gaeleg yr Alban fel pynciau dewisol yn ogystal. Y mae'r cynllun gradd Astudiaethau Celtaidd yn ymestyn dros bedair blynedd. Bydd myfyrwyr fel arfer yn astudio Gwyddeleg neu Lydaweg mewn gwlad dramor am gyfnod yn un o brifysgolion Iwerddon a Llydaw sydd mewn cyswllt agos ag Aberystwyth trwy'r rhaglen SOCRATES a ariennir gan y Gymuned Ewropeaidd. Trefnir y cyfnod y bydd myfyrwyr yn ei dreulio dramor ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf. Rhestrir isod y modiwlau a ddysgir drwy'r Gymraeg. Am restr o'r modiwlau cyfatebol a ddysgir drwy gyfrwng y Saesneg gweler Celtic Studies. Lefel 1
GC10620 Cyflwyniad i Wyddeleg Modern a'i Llenyddiaeth I
Lefel 2
GC20620 Cyflwyniad i Wyddeleg Modern a'i Llenyddiaeth I
Lefel 3
GC32320 Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Canol (Iaith a Llên) |