Department of Welsh
  English
Hafan
Cyflwyniad
Y Gymraeg: Cyrsiau
Gradd
Astudiaethau Celtaidd
Gwyddeleg: Cyrsiau
Gradd
Astudiaethau
Uwchradd
Staff
 
 

Cyflwyniad i'r Adran

Byth oddi ar sefydlu y Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu'n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a'r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yma. Hon yw'r Adran Gymraeg fwyaf yng Nghymru, gyda 10 aelod o staff llawn amser sy'n dysgu'r holl rychwant o ieithoedd a llenyddiaethau Celtaidd. Canolbwyntia'r mwyafrif o'n staff ac o'n myfyrwyr ar y Gymraeg, ond mae graddau BA ar gael mewn Gwyddeleg, Astudiaethau Celtaidd, a Chymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd. Darparwn gyrsiau is-raddedig ar gyfer Dechreuwyr a myfyrwyr Ail Iaith yn ogystal a myfyrwyr Iaith Gyntaf.

Y mae'n destun balchder fod safon ein hymchwil a'n dysgu gyda'r uchaf posibl, ac ar y blaen i sefydliadau ymchwil-a-dysgu eraill yng Nghymru: dyfarnwyd inni y radd uchaf un (5*) yn Asesiad Ymchwil 2001, y safle ail orau (ar ol Caer-grawnt) ym Mhrydain yn Asesiad Ymchwil 2008, a 'Rhagorol' yn yr Asesiad Dysgu diwethaf. Bydd yr Adran yn cael ei gosod ar frig Adrannau Celtaidd y Deyrnas Gyfunol, neu yn agos iddo, yn y tablau cynghrair blynyddol sy'n seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys cyflogaeth graddedigion a bodlonrwydd myfyrwyr.

Lleolir Adran y Gymraeg yn adeilad atmosfferig yr Hen Goleg 'ger y lli', ryw ddeng munud o gerdded o Gampws Pen-glais a Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda'i chasgliadau dihafal o lawysgrifau, llyfrau a chylchgronau. Cymraeg yw iaith feunyddiol yr Adran a'r ardal.

Y mae Adran y Gymraeg yn enwog am safon ryngwladol ei hymchwil, ond hefyd am ei chyfeillgarwch a'i hawyrgylch cartrefol braf. Croesewir yma raddedigion o bob rhan o Gymru, ac, yn wir, o bedwar ban byd. Mae gennym fyfyrwyr o Iwerddon, Lloegr, UDA, Canada, Slofenia, Llydaw, yr Almaen, Ffindir, a Gwlad Pwyl, ac yr ydym yn cydweithio a phrifysgolion yn Awstria, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen a gwledydd eraill. Drwy gynllun cyfnewid 'Erasmus' mae ein myfyrwyr yn gallu astudio mewn prifysgolion yn Iwerddon, Llydaw a mannau eraill yn Ewrop.