Adran y Gymraeg
  English
Hafan
Cyflwyniad
Y Gymraeg: Cyrsiau
Gradd
Astudiaethau Celtaidd
Gwyddeleg: Cyrsiau
Gradd
Astudiaethau
Uwchradd
Staff
 
 

Lefel Un

Dyma'r modiwlau Lefel Un a ddysgir gan yr Adran. (Y mae dau rif olaf cyfeirnod pob modiwl yn dynodi gwerth credydol y modiwl hwnnw, e.e. gwerth CY10110 yw 10 credyd).

Iaith Gyntaf

CY10110 Themâu a Ffigurau Llên c. 550-1900

Arolwg beirniadol o hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r Cynfeirdd hyd at Ddaniel Owen. Trafodir gweithiau unigol, gwahanol fathau o lenyddiaeth, prif syniadau llenyddol y cyfnodau dan sylw, a pherthynas llenyddiaeth Gymraeg â llenyddiaethau eraill a ddylanwadodd arni o dro i dro.

 

CY10210 Beirdd a Llenorion o 1900 Hyd Heddiw

Astudiaeth feirniadol o (i) ddetholiad o nofelau a storïau ac o (ii) farddoniaeth y ganrif hon. Yn ogystal ag astudio gweithiau awduron sydd eisoes yn awduron clasurol, fel Saunders Lewis, W. J. Gruffydd a T. H. Parry-Williams, rhoddir sylw hefyd i weithiau gan awduron mwy diweddar megis Bobi Jones a Robin Llywelyn.

 

CY10310 Cymraeg Ddoe a Heddiw

Cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes a theithi'r iaith. Trafodir nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, enwau lleoedd, enwau priod a nifer o bynciau eraill.

 

CY10410 Seminarau Iaith a Llên

Seminar iaith a seminar llên bob yn ail wythnos. Y mae pwyslais y seminarau iaith ar ysgrifennu yn raenus a chywir. Yn y seminarau llenyddol ysgogir trafodaethau ar wahanol ffurfiau llenyddol (e.e. y stori fer, y nofel, y delyneg, yr awdl, vers libre.)

Y mae'r modiwlau uchod yn rhagofynion ar gyfer Anrhydedd Sengl Cymraeg, Anrhydedd Cyfun, Anrhydedd Sengl Llenyddiaeth a Hanes Cymru, Cymraeg Prif Bwnc a Chymraeg Is-Bwnc. Y mae'r Adran hefyd yn cynnig y modiwlau dewisol a ganlyn:

CY12420 Cyfryngau Diwylliant

Modiwl a fydd yn bwrw golwg ar y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r diwylliant Cymraeg drwy'r oesoedd; edrychir ar y traddodiad llafar, ar lawysgrifau ar ymddangosiad y llyfr print a datblygiad cyhoeddi yn y Gymraeg, ac ar ddatblygiad y cyfryngau modern (recordiau sain, radio, ffilm a theledu, a chyfryngau electronig diweddar).

 

CY12510 Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar I

Cyflwyniad i fedrau sylfaenol i'r sawl a fyn ysgrifennu'r iaith yn raenus. Canolbwyntir ar gonfensiynau sillafu'r iaith, ffurfiau'r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau.

 

CY12610 Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar II

Parhad o'r cyflwyniad i fedrau sylfaenol i'r sawl a fyn ysgrifennu Cymraeg graenus. Canolbwyntir ar gonfensiynau sillafu'r iaith, ffurfiau'r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau.

 

GC10810 Diwylliant Celtaidd I

Dadansoddir y term 'Celt'. Gofynnir y cwestiwn a yw'r Cymry yn Geltiaid a thrafodir agweddau eraill ar Geltigrwydd. Trafodir hefyd nodweddion cymdeithasau Celtaidd cynnar.

 

GC10910 Diwylliant Celtaidd II 

Ystyrir disgrifiadau o'r Celtiaid drwy'r canrifoedd. Trafodir pynciau eang eu hapel mewn llenyddiaeth Geltaidd gymharol gyda sylw arbennig i lenyddiaeth ganoloesol Iwerddon.  

Ail Iaith

CY10510 Braslun o Hanes ein Llên

Arolwg beirniadol o brif fannau hanes llenyddiaeth Gymraeg: cyflwyniad i'r Hengerdd, y Gogynfeirdd, Beirdd yr Uchelwyr, Llenyddiaeth y Dadeni, yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif a Llên Oes Victoria.

 

CY10610 Llenyddiaeth o 1900 Hyd Heddiw

Cyflwyniad i ryddiaith a barddoniaeth yr ugeinfed ganrif, gyda rhai gwersi ar feirniadaeth. Darllenir nofelau a storïau a cherddi yn cynrychioli cynnyrch llenorion Cymraeg y cyfnod diweddar.

 

CY10710 Cymraeg Ysgrifenedig I

 

CY10810 Cymraeg Ysgrifenedig II

Trafodaethau ar deithi'r iaith a chyflwyniad i'r defnydd ohoni.

 

CY12220 Cymru: Iaith a Diwylliant

Nod y modiwl hwn yw gwella safon Cymraeg myfyrwyr ail iaith, gan ddarparu ar yr un pryd wybodaeth gefndirol iddynt am lenyddiaeth Gymraeg a sefydliadau sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.

Y mae'r modiwlau uchod yn rhagofynion ar gyfer Anrhydedd Sengl Cymraeg , Anrhydedd Cyfun ac Anrhydedd Sengl Llenyddiaeth a Hanes Cymru, Cymraeg Prif Bwnc a Chymraeg Is-Bwnc.

Yn ogystal â'r modiwlau uchod y mae'r Adran yn cynnig modiwlau Lefel Un Llydaweg a Gwyddeleg.