|
|
Cynnig arbennig! - HANNER PRIS!
Os colloch chi'r cyfle i danysgrifio i Ail Argraffiad y Geiriadur, peidiwch â phoeni, 'dyw hi ddim yn rhy hwyr. Gallwch gael y chwe rhan sydd wedi'u cyhoeddi'n barod am hanner y pris arferol!Cyhoeddwyd rhannau cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru dros hanner canrif yn ôl. Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y defnydd o'r Gymraeg yn y cyfamser ym myd llenyddiaeth a'r cyfryngau, ac yn enwedig mewn addysg a gweinyddiaeth. Ar yr un pryd mae ysgolheictod y Gymraeg wedi datblygu'n fawr a chyhoeddwyd llu o olygiadau pwysig fel Gwaith Dafydd ap Gwilym.Ar hyn o bryd mae staff y Geiriadur yn ailolygu'r rhannau cynharaf (A-B) yn llwyr, gan ychwanegu geiriau newydd sbon ac ystyron newydd i eiriau sydd eisoes yn bod. Yn y chwe rhan gyntaf ychwanegwyd dros 1,600 o eiriau newydd, dros 300 o gyfuniadau newydd, a thros 22,000 o ddyfyniadau enghreifftiol newydd. Bydd y rhan hon o'r geiriadur yn dyblu o ran maint. Gwaith newydd yw hwn, mewn gwirionedd, nid ail argraffiad syml.Bydd y rhannau newydd hyn yn amhrisiadwy i bawb sy'n defnyddio'r iaith.Ar gael drwy'ch siop lyfrau leol, neu o'r llefydd canlynol:Os dyfynnwch y cyfeirnod hwn (GPC2006 ) wrth danysgrifio i ail argraffiad Geiriadur Prifysgol Cymru fe gewch:
|
1921-2009 'A Dictionary of words only can answer no important end; for one may be acquainted with all the words in a Language'and yet be an entire stranger to it's genius.' -- John Walters, An English-Welsh dictionary, 1794.
|
|
Dylid cyfeirio pob ymholiad arall at: Y Golygydd, Geiriadur Prifysgol Cymru,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystywth, Ceredigion, SY23 3HH (ffôn: 01970 6
31094, ffacs: 01970 631039;
geiriadur@aber.ac.uk neu
geiriadur@cymru.ac.uk).
|
|
|
|
Rhodder gwybod i
geiriadur@cymru.ac.uk os ceir trafferth wrth
ddefnyddio'r safle hwn. |
|||