CYFANSODDIAD

 

 

CLWB CERDD PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH

 

 

 

Diwygiwyd fersiwn 1990 gan y Pwyllgor ar 6 Rhagfyr 2001 a 10 Ionawr 2002. Cafodd ei gymeradwyo gan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 2 Mai 2002.

 

 

1          Teitl

 

1.1        Teitl llawn swyddogol y Clwb fydd Clwb Cerdd Prifysgol Cymru Aberystwyth.

 

1.2        Y teitl byr ar gyfer defnydd cyffredinol fydd Clwb Cerdd Aberystwyth.

 

 

2          Nod a gweithgareddau

 

2.1        Nod y Clwb fydd cefnogi gwerthfawrogiad o gerddoriaeth drwy hyrwyddo cyngherddau gweithgareddau perthnasol eraill.

 

2.2        Bydd y Clwb yn ategu at y ddarpariaeth o gyngherddau  mawr cerddorfaol a chorawl yn Aberystwyth trwy drefnu rhaglenni o ddatganiadau gan ensembles llai ac unawdwyr.

 

2.3        Bydd y Clwb yn cydweithio gyda’r awdurdod addysg leol ac ysgolion er mwyn hybu ei waith addysgiadol drwy weithdai a dosbarthiadau meistr ar gyfer disgyblion o ysgolion lleol.

 

2.4        Bydd y Clwb yn cydweithio gyda’r Brifysgol a mudiadau cyhoeddus  a gwirfoddol er mwyn ehangu mynediad i’w ddatganiadau, yn enwedig i’r henoed a’r rhai dan anfantais.

 

2.5        Bydd y Clwb bob amser yn gweithredu ei bolisïau o (a) gyfle cyfartal o fynediad i’w weithgareddau a (b) diogelu plant yng nghyd-destun y gweithdai a dosbarthiadau meistr a gyfeirir atynt yn adran 2.3 uchod.

 

 

3          Aelodaeth

 

3.1        Bydd  Aelodaeth ar agor i bawb sydd yn cefnogi amcanion y Clwb wrth dderbyn taliad o’r tanysgrifiad blynyddol priodol.

 

3.2        Bydd y Pwyllgor yn penderfynu y  categorïau o aelodaeth.

 

3.3        Bydd hawl gan aelodau fynychu pob gweithgaredd a hyrwyddir gan y Clwb, i gynnig bobl i wasanaethu ar y Pwyllgor ac i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

3.4        Gall person nad yw’n aelod fynychu unrhyw ddigwyddiad a hyrwyddir gan y Clwb drwy brynu tocyn priodol.

 

4          Perthynas â Phrifysgol Cymru Aberystwyth a mudiadau eraill.

 

4.1        Bydd y Pwyllgor yn gweithio mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwr a Staff Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

 

4.2        Bydd y Pwyllgor yn gweithio mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Cymru Aberystwyth.

 

4.3        Bydd hawl gan y Pwyllgor i  gydweithio a thrafod telerau gyda chlybiau cerdd eraill  a mudiadau tebyg yng Nghymru a’r Gororau.

 

 

5          Rheolaeth

 

5.1        Cyffredinol

 

Bydd y dewis o artistiaid a rhaglenni, hyrwyddiad cyffredinol y Clwb a’i weithgareddau, a denu aelodau newydd yn nwylo Pwyllgor a etholwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

5.2        Cyllid

 

Bydd lefel y tanysgrifiad ar gyfer bob blwyddyn academaidd yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Bydd y Trysorydd Anrhydeddus yn cadw llygad cyffredinol ar gyllideb y Clwb ac yn gyfrifol am  y cyfrifon.

 

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd yn glwm i archwiliad gan archwilwyr y Brifysgol, yn delio â holl arian y Clwb.

 

5.3        Cyhoeddusrwydd

 

Bydd y Pwyllgor  yn gyfrifol am gyhoeddusrwydd ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

 

 

6          Pwyllgor

 

6.1 Bydd y Pwyllgor yn cynnwys y Swyddogion ac Aelodau canlynol:

 

Swyddogion:

Cadeirydd

Is-Gadeirydd

Ysgrifennydd  Anrhydeddus

Trysorydd  Anrhydeddus

Swyddog Cyhoeddusrwydd Anrhydeddus

 

Swyddogion yn rhinwedd eu swyddi:

 

Y Cyn Gadeirydd mwyaf diweddar

Cyfarwyddwr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Ymgynghorydd Rhaglen Anrhydeddus

Cyfarwyddwr Cerdd, Prifysgol Cymru Aberystwyth

Ymgynghorydd Cerdd Ceredigion (neu enwebedig)

Rheolwr Gwasanaeth Cerdd Ceredigion

 

Aelodau a etholwyd

 

2 Aelod Staff Prifysgol Cymru Aberystwyth

2 Aelod Ardal Aberystwyth

2 Aelod Fyfyrwyr

 

 

6.2        Bydd y Swyddogion yn cael eu hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i wasanaethu am tair blynedd ganlynol.  Byddant yn gymwys i’w hail-ethol.

            Bydd Aelodau Staff Prifysgol Cymru ac Aelodau Ardal Aberystwyth yn cael eu hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i wasanaethu am y tair blynedd ganlynol.  Byddant yn gymwys i’w hail – ethol  a chael eu henwebu fel Swyddogion y Clwb.

 

6.3        Bydd yr enwebedig a’r enwebwyr yn aelodau llawndaledig o’r Clwb.  Anfonir enwebiadau i’r Ysgrifennydd Anrhydeddus, yn ysgrifenedig, wedi eu harwyddo gan yr enwebedig a’r enwebwr/yr, ynghyd â chaniatâd yr enwebedig.

            Os bydd y nifer o enwebiadau yn llai na’r llefydd ar gael, gall y Cadeirydd ofyn am enwebiadau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. 

 

6.4        Bydd gan y Pwyllgor yr hawl i enwebu a chyfethol .

 

6.5        Bydd  swydd hefyd fel Llywydd  Anrhydeddus y Clwb, i’w lenwi drwy gynigion y Pwyllgor.

 

7          Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

7.1        Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei gynnal cyn gynted â phosib ar ôl  cyngerdd proffesiynol olaf tymor y Clwb.

 

7.2        Bydd Rhybudd o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei roi yng nghyngerdd proffesiynol olaf tymor y Clwb.

 

7.3        Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad am  y tymor sydd newydd orffen a hefyd ei gynigion am y flwyddyn i ddod.