CLWB CERDD ABERYSTWYTH

 

Cyfleoedd Cyfartal

 

Mae Clwb Cerdd Aberystwyth yn cadarnhau ei ymrwymiad i bolisi o gyfle cyfartal o fynediad i’w weithgareddau.

 

Mae’n croesawu cyfranogiad gan holl aelodau’r gymuned beth bynnag yw eu hil, lliw, cenedligrwydd, haniad ethnig neu naturiol, rhyw, cefndir economaidd gymdeithasol, oed ac anabledd.

 

Ceisia’r Clwb weithredu’r polisi hwn  drwy

 

·        dynnu sylw at y ddarpariaeth ardderchog i’r anabl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth;

·        hysbysebu ei weithgareddau mor eang â phosib yn y gymuned;

·        drefnu gweithgareddau ar gyfer disgyblion ysgol, gan gynnwys y rhai â anawsterau dysgu.

 

Creda’r Clwb fod ei weithgareddau ar gyfer disgyblion ysgol yn enwedig, yn cynnwys nifer sylweddol o bobl ifanc sydd yn cynrychioli cymysgedd diwylliannol , ieithyddol a chymdeithasol ardal Aberystwyth.