English

Clwb Cerdd Aberystwyth

Rhaglen 2017/18

Cynhelir pob cyngerdd yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau.

* * *

Dydd Sul 1 Hydref 2017, 3.00 yp

Philip Attard (sacsoffon) a Christine Zerafa (piano)

Gweithiau gan Saint-Saens (sonata ar gyfer obo), de Falla, Yoshimatsu (Sonata Fuzzy Bird) ac eraill.

Daw’r cyngerdd hwn drwy nawdd Ymddiriedolaeth Gerdd Iarlles Munster.

*          *           *

Nos Iau 2 Tachwedd 2017, 8.00 yh

Peter Harris (tenor) a Hamish Brown (piano)

Britten (Winter Words), Gurney (Ludlow and Teme), Mahler (caneuon o Des Knaben Wunderhorn) a Richard Strauss).

Daw'r cyngerdd hwn drwy nawdd Cynllun Artistiaid Lieder Rhydychen.

*          *           *

Dydd Sul 26 Tachwedd 2017, 3.00 yp

Pumawd Chwyth Seren

Gweithiau gan Poulenc, Françaix, Ligeti ac eraill.

*          *           *

Nos Iau, 25 Ionawr 2018, 8.00 yh

Viv McLean (piano)

Amrywiadau  Goldberg gan Bach, Amrywiadau ar thema Handel gan Brahms ac amrywiadau ysgafngalon Beethoven ar God Save the King.

*           *           *

Dydd Sul 25 Chwefror 2018, 3.00 yp

Pumawd Piano Robin Green

Pumawdau piano gan Schumann a Brahms, a'r pedwarawd piano K478 gan Mozart.

*          *           *

Dydd Sul 18 Mawrth 2018, 3.00 yp

Mary Hofman (feiolin) a Richard Ormrod (piano)

Sonatâu gan Mozart (K454), Enescu (rhif 3) a Grace Williams, yn ogystal âg Amrywiadau Eroica gan Beethoven.

.