|
Arholiad
Uwch Gyfrannol
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
Uned
5: Cyflwyno Barddoniaeth
|
|
|
Uned
6: Ca3 Barddoniaeth
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cilmeri
(tudalen 52)
|
|
Fin nos,
fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Y nant
a welaf fan hyn
A welodd Llywelyn.
Camodd ar y cerrig hyn.
Fin nos,
fan hyn
O'r golwg nesai'r gelyn.
Fe wnaed y cyfan fan hyn.
Rwyf
fi nawr fan hyn
Lle bu ei wallt ar welltyn,
A dafnau o'i waed fan hyn.
Fan hyn
yw ein cof ni,
Fan hyn sydd anadl inni,
Fan hyn fu'n geni.
|
| |
|
Gerallt
Lloyd Owen
|
Llywelyn yw, Llywelyn ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru.
'Lladdwyd Llywelyn.'
Bu farw ger Llanfair-ym-Muallt ger yr Afon Irfon yn 1282. Y gelyn
oedd y Normaniaid dan Frenin Lloegr, Edward 1af. |
Gwrthgyferbyniadau
- Lladdwyd Llywelyn. gorffennol
nid anghofiaf hyn. presennol
- a welaf
presennol
A welodd Llywelyn. gorffennol
Camodd
- nesai'r
gelyn. gorffennol
Fe wnaed y cyfan fan hyn.
- Rwyf fi
nawr presennol
Lle bu ei wallt gorffennol
- Fan hyn
yw presennol
Fan hyn sydd
Fan hyn fu'n gorffennol
- Wrth ddefnyddio'r amser presennol yn ogystal â 'r gorffennol, mae'n
amlwg bod y bardd am wneud mwy na disgrifio lladd Llywelyn. Wrth ddefnyddio'r
presennol, mae'r bardd am i ni ystyried pwysigrwydd Llywelyn i ni heddiw.
Ailadrodd
Mae'r bardd
yn ailadrodd 'Fan hyn' ym mhob pennill, weithiau ddwywaith a
theirgwaith yn y pennill olaf. Wrth wneud hyn mae'r bardd:
- yn tanlinellu marwolaeth ein Tywysog yn y gorffennol yn Cilmeri
- yn defnyddio'r presennol dramatig er mwyn gwneud y profiad yn un
byw a dirdynnol i ni
- er nad yw'r bardd yn sôn am Cilmeri, heblaw yn y teitl, eto
i gyd mae'n pwysleisio pwysigrwydd y lle. Wrth gyfeirio at 'y nant'
a'r 'cerrig' yn yr ail bennill mae'n rhoi cymeriad i'r lle
- Sylwch fod 'fan hyn' yn cael ei ail adrodd ar ddechrau'r tair llinell
yn y pennill olaf. Mae hyn er mwyn pwysleisio fan hyn, yn Cilmeri. Hefyd
yn y pennill olaf nid y lle'n ddaearyddol sy'n bwysig yn awr, ond arwyddocâd
y lle, 'ein cof', 'anadl inni', 'fu'n geni' gan ein cysylltu ni â'r
lle. Hefyd, wrth ail adrodd 'fan hyn' ar ddechrau pob llinell mae'n
creu uchafbwynt yn y llinell olaf.
Yr odl
- Mae ail adrodd 'fan hyn' ddwy waith ar ddiwedd y llinellau yn y
pedwar pennill cyntaf yn creu unoliaeth i'r gerdd.
- Yn y ddau bennill cyntaf mae'r bardd yn odli 'hyn' gyda Llywelyn
er mwyn pwysleisio yr union fan y cafodd ei ladd.
- Yn y trydydd pennill mae'r bardd yn odli 'hyn' gyda 'gelyn er mwyn'
pwysleisio sut y cafodd ei ladd.
- Yn y pedwerydd pennill mae'r bardd yn odli 'hyn' gyda 'gwelltyn'
er mwyn cynnwys elfen bersonol yn y gerdd
'ei wallt ar welltyn,
A dafnau o'i waed fan hyn.
- Mae'r odl yn newid yn y pennill olaf. Mae'n cynnwys y darllenydd yn
y profiad ac yn yr emosiwn drwy ddefnyddio 'ni' a'r unig air arall sy'n
odli â 'ni' yw 'geni.' Dyma obaith Gerallt Lloyd Owen sef y bydd
y profiad yn rhoi 'geni' newydd i ni fel Cymry
Cyfateb Cytseiniaid
- o gymorth i arafu tempo'r llinellau. Hyn mor amlwg yn y llinell
agoriadol
'Fin
nos, fan hyn'
- drwy ateb cytseiniaid mae'r bardd yn cysylltu'r geiriau, 'ei
wallt ar welltyn' a'i gilydd ac mae hyn yn pwysleisio'r
elfen bersonol yn y gerdd
Hefyd yn y pennill olaf, drwy ail adrodd a chyfateb cytseiniaid yn
ogystal â defnyddio'r person cyntaf, mae'n creu emosiwn cryf
iawn:
Fan hyn yw ein cof ni,
Fan hyn sydd anadl inni,
Fan hyn fu'n geni
|