Cyfleoedd Gwaith
Cysylltwch â Ni

 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 


Mae'r Gwasanaethau Croeso yn rhan o Wasanaethau Preswyl a Chroeso y Brifysgol.

Credwn fod gan y gwasanaeth croeso gyfraniad pwysig iawn i'w wneud i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. Mae deiet a maeth yn sylfaenol i les myfyrwyr, ac mae'r gwasanaeth croeso yn ymwybodol o'r angen i ddarparu bwyd iach, maethlon, uchel ei safon yn gyson.

Mae cig oen o ffermydd y brifysgol wedi ennill medal aur Gwir Flas Cymru 2009.

Mae’r Brifysgol wedi ennill medal aur Gwir Flas Cymru am Gynaliadwyedd, medal arian am gig oen o ffermydd y brifysgol a medal arian am y modd y mae’n defnyddio cynnyrch / cynhyrchwyr lleol.

Beth sydd i'w gael i fwyta ac yfed ar y campws?

Mae gennym fwydydd Prydeinig traddodiadol wrth gwrs, ond gallwch chi hefyd fwynhau prydau Cyfandirol a Dwyreiniol megis pitsas, pasta, bwydydd wedi’u tro-ffrio a chyrris.

Mae gan ein dau brif fwyty adran sy’n gwerthu prydau ffres, adran Bwydydd i’w Bachu ar gyfer brechdanau, saladau ayyb, yn ogystal â diodydd deiet, dŵr potel, suddion ffrwythau a diodydd poeth. 

" Mae lleoedd bwyd y Gwasanaethau Croeso wedi ymrwymo i’w cyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol"

Cyfleoedd Gwaith     Cysylltwch â Ni


Enillydd or Gwir Flas Gymru 2008
Cynllun Croeso Fair Trade Wi-Fi