|
Sut i Ymuno a'r CynllunLlwythwch y ffurflen i lawr a llenwi'r ffurflen gais briodol ac amgáu siec yn daladwy i Prifysgol Aberystwyth, neu fel arall, nodwch fanylion eich cerdyn credyd ar y ffurflen am o leiaf yr isafswm credyd cychwynnol o £10. Dychwelwch y ffurflen i Swyddfa Gyllid y Gwasanaethau Croeso sydd yn Nerbynfa Penbryn. Cyfeiriad: Y Swyddfa Gyllid Gwasanaethau Croeso, Gwasanaethau
Croeso, Penbryn, Penglais, Aberystwyth, SY23 3BY neu ffôn: 01970 62 1942 / 62 2778 neu hospitalityfinance@aber.ac.uk Casglu eich CerdynBydd myfyrwyr sy'n byw yn ein neuaddau preswyl lle paratoir bwyd yn derbyn eu cerdyn teyrngarwch yn awtomatig wrth nôl allweddi eu hystafelloedd, felly hefyd y myfyrwyr mewn llety hunan-arlwyo a archebodd eu cerdyn ymlaen llaw. Caiff pawb arall gyfle i gasglu neu brynu cerdyn teyrngarwch o'n man ymholiadau am y Cerdyn Teyrngarwch yn Nerbynfa Penbryn ar ddechrau'r tymor. Ffurfflen Gais
Cwestiynau?Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ddefnyddio'r cardiau, cysylltwch a ni. |
