Ymddygiad Academaidd Da

Beth mae Ymddygiad Academaidd Da yn ei olygu?

Arfer academaidd da yw defnyddio arddull ffurfiol, academaidd. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o ddeunyddiau cyfeirnodi priodol sy'n gysylltiedig â rhestrau darllen y modiwlau yr ydych yn eu hastudio. Gallwch ddewis cynnwys ffynonellau cyfeirio eraill, ond mae angen i chi sicrhau eu bod yn weithiau cyhoeddedig, ysgolheigaidd.

Mae hefyd yn cynnwys defnyddio arddull cyfeirnodi a argymhellir, fel Harvard, APA, MHRA, MLA, IEEE, IOP, troednodiadau/ôl-nodiadau, neu eraill.  Mae canllawiau ac arweiniad eich adran ar gael drwy LibGuides Aberystwyth.  Bydd gwybodaeth hefyd ar gael drwy adnoddau eraill y mae eich adran yn eu darparu (e.e. ar Blackboard).

Os nad ydych chi'n siŵr ble mae dod o hyd i wybodaeth am gyfeirnodi neu sut i'w defnyddio, siaradwch â rhywun.  Gallwch chi gael cyngor gan eich tiwtor ac mae rhagor o wybodaeth ar gael gan eich llyfrgellydd pwnc.  Mae hyfforddiant hefyd ar gael drwy'r Tiwtor Cydlynydd Sgiliau.

Diffiniadau o Ymddygiad Da

Datganiad Prifysgol Aberystwyth ar Arfer Academaidd Da

Deall beth mae'r cwestiwn yn gofyn amdano

  • Geiriau cynnwys allweddol sy'n gysylltiedig â phwnc neu thema'r dasg. Mae'r rhain yn ymwneud yn uniongyrchol â'r pwnc dan sylw.
  • Geiriau proses sefydlog sy'n cyfeirio'r hyn sy'n rhaid i chi ei wneud. Mae'r rhain yn eiriau fel 'trafod', 'gwerthuso', 'dadansoddi', ac ati.
  • Agweddau amrywiol ar y cynnwys neu’r broses, sy’n caniatáu ichi drafod materion amgen yn ôl eich dehongliad neu’ch barn eich hun. Gallwch adnabod y rhain drwy’r geiriad, e.e. 'defnyddio enghraifft o'ch dewis',
  • Amwyseddau neu agweddau ar y cwestiwn nad ydynt wedi’u diffinio’n glir neu y gellir eu dehongli mewn mwy nag un ffordd. Nid yw amwyseddau yn cael eu cynnwys yn fwriadol mewn cwestiwn. Os ydych yn ansicr ynghylch ffocws y cwestiwn, gofynnwch am gyngor gan diwtor neu gydlynydd modiwl.

Sut y gellid cymhwyso'r pwyntiau hyn at gwestiwn gwirioneddol

Yn y cwestiwn isod, mae amrywiaeth sylweddol yn yr hyn y gallwch ei gynnwys yn eich traethawd.

Cwestiwn: 'Beth yw'r gwahaniaeth rhwng entrepreneur a rheolwr? Trafodwch arddulliau rheoli entrepreneur.'

  • Geiriau allweddol: entrepreneur, rheolwr, arddulliau rheoli
  • Geiriau proses sefydlog: trafod, beth yw'r gwahaniaeth rhwng...?
  • Agweddau amrywiol: beth yw'r gwahaniaeth rhwng...?
  • Amwyseddau: a yw 'y gwahaniaeth' yn unigol, neu a oes ystod o wahaniaethau y gallwch ddewis ohonynt a mynd i'r afael â hwy yn ddetholus

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar feini prawf marcio cyn i chi ddechrau'r traethawd

Beth sydd angen i chi ei wneud i ennill marciau da ar y pwyntiau canlynol?

Sut mae'r pwyntiau hyn yn amrywio ym mhob un o'r categorïau gradd gwahanol?

  • Ateb y cwestiwn (ffocws ar y prif bwynt)
  • Strwythur traethawd neu adroddiad
  • Gwrthrychedd a barn (cefnogi eich honiadau gyda thystiolaeth)
  • Dyfnder trafodaeth feirniadol (gwnewch yn siŵr bod eich holl baragraffau yn cynnwys datganiad, tystiolaeth ategol ac esboniad o werth critigol)
  • Cadw at gyfrif geiriau (fel arfer nid oes gan draethodau byr bwyntiau ar dystiolaeth ac esboniad ategol)
  • Defnyddio a chydnabod ffynonellau cyfeirio (gweler canllaw cyfeirio eich adran isod)
  • Cywirdeb iaith a defnydd o iaith academaidd ffurfiol (osgowch iaith arddull y cyfryngau, bratiaith, byrfoddau a gwiriwch am ddefnydd ailadroddus o eiriau)
  • Cynllun a chyflwyniad
  • Pwyntiau eraill

Dolenni defnyddiol: Rheoliadau Prifysgol Aberystwyth ar Ymarfer Academaidd

Agweddau hanfodol o ymddygiad academaidd

Isod mae cyfres o ganllawiau ar agweddau penodol ar ymarfer academaidd. Gellir defnyddio'r canllawiau hyn unrhyw bryd yn ystod eich astudiaethau ac fe'u hargymhellir fel darllen hanfodol. Ar ôl edrych ar y canllawiau hyn, dylech eu cymharu'n uniongyrchol â chanllaw arddull eich adran i weld sut y gallwch unigoli unrhyw ran o'r wybodaeth i'ch anghenion astudio. Rydym hefyd yn defnyddio fersiynau estynedig o'r canllawiau hyn mewn cyrsiau i fyfyrwyr sydd angen arweiniad ychwanegol ar Ymddygiad Academaidd.

Ymddygiad Academaidd Annerbyniol

Beth yw Ymddygiad Academaidd Annerbyniol?

Mae rheoliadau'r Brifysgol ar arfer academaidd annerbyniol yn llym ac maent yn llywodraethu achosion lle honnir bod myfyriwr wedi ymgymryd ag ymarfer academaidd annerbyniol (yn fwriadol neu fel arall).

Mae’r diffiniad o ‘ymarfer academaidd annerbyniol’ yn amlochrog ond yn gyffredinol bydd yn cynnwys achosion o lên-ladrad honedig (e.e. defnyddio gwaith rhywun arall heb ei briodoli iddo), cynnal cyfeiriadau gwael neu annigonol, ailgylchu eich gwaith eich hun o asesiadau eraill, a hyd yn oed cydgynllwynio (h.y. gweithio gyda myfyriwr arall i gyflwyno ei waith fel eich gwaith eich hun, neu i’r gwrthwyneb).

Beth mae'r Brifysgol yn ei ddweud am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol?

Mae'n Arfer Academaidd Annerbyniol i gyflawni unrhyw weithred lle gall person gael mantais nas caniateir, iddo'i hun neu i rywun arall.

Mae'r Brifysgol yn cydnabod y categorïau canlynol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Nid yw'r rhain yn hollgynhwysfawr, a gall achosion eraill ddod o fewn y diffiniad cyffredinol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

(i) Llên-ladrad

Y diffiniad o lên-ladrad yw defnyddio gwaith rhywun arall a'i gyflwyno gan honni mai eich gwaith eich hun ydyw. Mae enghreifftiau o lên-ladrad yn cynnwys

  • dyfynnu heb ddefnyddio dyfynodau
  • copïo gwaith rhywun arall
  • cyfieithu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny
  • aralleirio neu addasu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny'n gywir
  • defnyddio deunydd wedi'i lawrlwytho o'r rhyngrwyd heb gydnabod hynny
  • defnyddio deunydd a gafwyd gan fanc traethodau neu asiantaethau tebyg
  • cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun

(ii) Cydgynllwynio

  • Mae cydgynllwynio'n digwydd pan fydd gwaith a gyflawnir gan eraill neu gydag eraill yn cael ei gyflwyno gan honni mai gwaith un unigolyn ydyw.

(iii) Ffugio tystiolaeth neu ddata

  • Mae ffugio tystiolaeth neu ddata a/neu ddefnyddio tystiolaeth neu ddata o'r fath mewn gwaith i'w asesu yn cynnwys gwneud honiadau ffug mai chi gyflawnodd arbrofion, arsylwadau, cyfweliadau neu ddulliau eraill o grynhoi a dadansoddi data.

(iv) Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiadau ffurfiol

  • mynd ag unrhyw ffurf anawdurdodedig ar ddeunydd i mewn i ystafell arholi a/neu gyfleuster cysylltiedig
  • copïo gwaith gan, neu gyfathrebu ag, unrhyw berson arall yn yr ystafell arholi a/neu gyfleuster cysylltiedig
  • cyfathrebu'n electronig ag unrhyw un arall
  • esgus bod yn ymgeisydd penodol mewn arholiad neu ganiatáu i rywun arall gymryd eich lle gan esgus mai chi ydyw
  • cyflwyno sgript arholiad gan honni mai eich gwaith chi ydyw, er bod y sgript yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd trwy ddulliau anawdurdodedig
  • peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau ysgrifenedig i ymgeiswyr mewn arholiadau ffurfiol, nac â chyfarwyddiadau llafar gan oruchwylwyr yr arholiadau

(v) Ailgylchu data neu destun

  • Ailgylchu data neu destun mewn mwy nag un asesiad, pan fo'r Adran yn benodol yn peidio â chaniatáu hyn.

Manylion llawn: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/ 

Cyngor Undeb Myfyrwyr

Dolenni defnyddiol