Dysgu'n effeithiol

Gwybod eich gradd

Faint ydych chi'n ei wybod am y llwyth gwaith a'r asesiad ar eich cynllun gradd?

 

Adnoddau rhwydweithio

Mae gan bob myfyriwr fynediad i’r rhaglenni canlynol ar holl gyfrifiaduron Prifysgol Aberystwyth:

Inspiration – rhaglen mapio meddwl sy’n eich galluogi i gysylltu syniadau â’i gilydd mewn map cysyniad gweledol

Texthelp Read & Write – rhaglen testun-i-leferydd fel y gallwch glywed testunau neu eich traethawd eich hun yn cael ei ddarllen yn uchel (angen clustffonau).

Mae amryw o ategion porwr rhad ac am ddim hefyd ar gael ar Google Chrome megis:

  • Testun i leferydd: Google text to speech; Balabolka ( http://balabolka.en.softonic.com/ )
  • Cyflymder darllen y we gyda spred (siop chrome)
  • Ysgrifennu/nodiadau arddweud: Voice Note 2 (siop chrome)

Mae'r casgliadau LinkedIn Learning hyn yn cynnig fideos byr a chyrsiau a fydd yn dangos i chi sut i roi hwb i'ch cynhyrchiant gyda thechnoleg (cyrsiau Saesneg):

  • Staying motivated (casgliad LinkedIn Learning - Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a chyfrinair PA)
  • Digital Productivity (casgliad LinkedIn Learning - Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a chyfrinair PA)

Steiliau dysgu

Mae eich arddull neu steil dysgu unigol yn cyfeirio at y ffordd ffafriol yr ydych yn amsugno, prosesu, deall a chadw gwybodaeth. Mae arddulliau dysgu yn dibynnu ar ffactorau gwybyddol, emosiynol ac amgylcheddol, yn ogystal â phrofiad blaenorol. Gall archwilio'r ffordd rydych chi'n dysgu eich helpu i astudio'n fwy effeithlon. Er enghraifft, os ydych chi'n ddysgwr cinesthetig yna mae'n debyg eich bod chi'n dysgu'n well pan fyddwch chi'n symud o gwmpas na phan fyddwch chi'n eistedd yn llonydd, felly gall chwarae â beiro, dwdlo neu siglo ar gadair eich helpu i ganolbwyntio. Mae yna nifer o wefannau sy'n cynnig holiaduron arddulliau dysgu a strategaethau astudio cysylltiedig.

Steiliau a strategaethau dysgu hanfodol

Dysgu cynhwysol

Dysgu cynhwysol

Os oes gennych gyflwr iechyd hirsefydlog neu wahaniaeth dysgu penodol, gallwn gynnig cyngor i chi ar dechnoleg galluogi a threfniadau arholiadau unigol fel y gallwch gyrraedd eich llawn botensial a chael y canlyniadau da yr ydych yn eu haeddu.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu os oes gennych gwestiynau penodol, ewch i dudalen we Gwasanaeth Hygyrchedd neu cysylltwch â ni drwy:

E-bost: hygyrchedd@aber.ac.uk 

Gall ein tîm o gynhorwyr hygyrchedd eich cynghori ar y mathau o dystiolaeth sydd ei hangen arnoch i gael mynediad at ddarpariaeth benodol yn y Brifysgol.

Os ydych yn credu bod gennych wahaniaeth dysgu fel dyslecsia/dyscalcwlia gallwn hefyd gynnig asesiad sgrinio rhagarweiniol i chi. Byddwn yn rhoi cyngor i chi ar unwaith ac yn dweud wrthych a ydym yn meddwl y dylech fynd ymlaen i gael Asesiad Seicolegydd Addysg mwy ffurfiol. Gallwn eich helpu i drefnu hyn.

Awgrymiadau da i ddysgu'n effeithiol

Mae dysgu gweithredol yn nodwedd allweddol o astudio yn y brifysgol, ond sut mae hyn yn gweithio'n ymarferol?

Mae'r dogfennau canlynol sy'n cynnwys rhestr adnoddau yn rhannu syniadau ar sut y gallwch droi dysgu di-dor yn ddysgu gweithredol a manteisio i'r eithaf ar ddarlithoedd a darlleniadau.

Mae defnyddio strategaethau effeithiol yn eich galluogi i gofio mwy (gyda llai o amser wedi'i fuddsoddi) a chael marciau gwell.