Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ceisio hyrwyddo atebolrwydd ac agwedd fwy agored ledled y sector cyhoeddus. Mae’n rhoi hawl mynediad cyffredinol i bob math ar wybodaeth gofnodedig a gedwir gan yr awdurdodau cyhoeddus, yn nodi eithriadau i’r hawl hwnnw ac yn rhoi nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys prifysgolion).

O dan y Ddeddf mae’n rhaid i’r Brifysgol gynnal Cynllun Cyhoeddi, ynghyd â Chanllawiau Gwybodaeth manylach sydd ar gael fel mater o drefn. Gobeithio y bydd yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth yn haws, heb orfod cyflwyno cais ffurfiol am wybodaeth.

Mae gan y Brifysgol ddyletswydd hefyd i ymateb i geisiadau am wybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith. Ceir manylion ynghylch sut mae gwneud cais, a’r hyn y gallwch ddisgwyl ei gael, yma.

Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd y mae’r Brifysgol wedi ymdrin â chais am wybodaeth, mae gennych hawl i apelio, a chaiff y broses hon ei disgrifio yma.

I gael rhagor o wybodaeth am ehangder a chyfrifoldebau’r Brifysgol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, edrychwch ar ein Polisi Rhyddid Gwybodaeth.