Llwyddiant i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes yn REF 2014

Canlyniadau FfRhY 2014

Canlyniadau FfRhY 2014

18 Rhagfyr 2014

Llwyddiant i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes yn REF 2014

Sgoriodd yr Ysgol Rheolaeth a Busnes (YRhaB) yn dda iawn yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF), asesiad cyfnodol o ansawdd yr ymchwil mewn prifysgolion yn y DU.

Mae’r canlyniadau yn dangos bod 95% o'r ymchwil a gyflwynir wedi cael ei farnu 'a gydnabyddir yn rhyngwladol' gan yr aseswyr.

Roedd perfformiodd YRhaB yn arbennig o dda yn y categori Effaith, a oedd yn asesu gwerth ymchwil i ddefnyddwyr megis busnesau a llywodraeth. Ar y sgôr hwn, roedd gan yr Ysgol 75% wedi barnu 'Rhagorol yn Rhyngwladol' a 25% yn barnu o'r rhain o 'Safon Fyd-eang'.

Mae ymchwil YRhaB yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau gwyddorau cymdeithasol. Wnaeth astudiaethau achos ymdrin â materion fel economeg ecosystemau a bioamrywiaeth, datblygu gwledig yng Nghymru ac economeg dai yn y DU.

Meddai Cyfarwyddwr YRhaB, yr Athro Steven McGuire: 'Mae'r cynnyrch ymchwil da yma yn ganlyniad o ymdrech rhagorol gan staff academaidd gyda chefnogaeth arbennig gan ein cydweithwyr gweinyddol. Gan taw’r pwyslais cynyddol yn y cyllid ymchwil yn y dyfodol bydd effaith, mae’r Ysgol a'r Brifysgol mewn sefyllfa dda i elwa ar hyn. '

Dywedodd Darpar Bennaeth yr Ysgol, Yr Athro Mike Christie fod 'staff YRhaB wedi gweithio'n galed iawn i wella ansawdd eu hymchwil yn yr asesiad REF. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar y cryfderau hyn i ddatblygu ysgol sy'n cynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd'.

Wnaeth Brifysgol Aberystwyth wella ei sgôr cyffredinol, yn enwedig o ran effaith, ac mae’n parhau i fod ymhlith y prifysgolion ymchwil gorau yn y DU.