Gwybodaeth Gyffredinol a Chanllawiau i Fyfyrwyr Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth

 

Ceisiadau am Estyniad ac Amgylchiadau Arbennig

Caniateir estyniadau am hyd at 14 diwrnod a hynny dim ond mewn achos lle mae amgylchiadau meddygol/personol clir, e.e. salwch, problemau teuluol neu brofedigaeth.

Nid yw trafferthion gyda chyfrifiadur neu beiriannau argraffu yn rhesymau derbyniol dros gyflwyno gwaith yn hwyr. I wneud cais ar gyfer estyniad, rhaid llenwi'r Ffurflen gais am estyniad i ddyddiad cyflwyno gwaith cwrs- 2019 a’i hanfon at ysgol-fusnes@aber.ac.uk o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau. 

Cewch wybod a yw eich cais wedi’i gymeradwyo ai peidio o fewn 2 ddiwrnod gwaith wedi dyddiad derbyn y cais. Mae canllawiau cynhwysfawr ar y ffurflen ei hun.

Ni dderbynnir ceisiadau am estyniadau ôl-weithredol. Os yw dyddiad cau eich aseiniad wedi pasio, dylech ddilyn y cyngor ar gyfer Amgylchiadau Arbennig sydd ar gael yn:   https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/name-193260-cy.html 

Ffurflenni Amgylchiadau Arbennig 

Amgylchiadau Arbennig PDF

Amgylchiadau Arbennig Dogfen Word

Ar ôl ichi gwblhau eich ffurflen Amgylchiadau Arbennig, ebostiwch y ddogfen a'ch tystiolaeth i ysgol-fusnes@aber.ac.uk os gwelwch yn dda