Adran 7 - Trefn Datblygu a Chymeradwyo Cynlluniau
Yn unol â gofynion 'Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch - Partneriaethau', mae'r Brifysgol yn cynnal diwydrwydd dyladwy cymesur wrth ddatblygu a chymeradwyo prosiectau cydweithrediadol. Caiff y gweithdrefnau hyn eu teilwra yn unol â natur y prosiect cydweithrediadol a lefel benodol ei risg. Cyfeiriwch at y raddfa amser ar gyfer datblygu a ddisgrifir ym Mhennod Ansawdd - Adran 8 Graddfeydd Amser ar gyfer Datblygu i gael canllaw er mwyn gweld faint o amser ddylid ei roi ar gyfer y prosesau hyn.
Mae Proses Datblygu a Chymeradwyo'r Brifysgol ar gyfer gweithgareddau Partneriaeth Gydweithrediadol yn cynnwys y tri cham canlynol. Mae pwynt terfyn clir i bob cam sy'n sbarduno cychwyn y cam nesaf. Yn achos prosiectau mwy o faint, bydd bwrdd y prosiect yn cydlynu'r datblygiad trwy bob cam gan sefydlu graddfeydd amser, cynlluniau a llif gwaith manwl.
Cam |
|
Pwynt Terfyn |
1 |
Cymeradwyaeth Strategol (Cam Cynllunio) |
Llofnodi a Chyfnewid Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth neu Gymeradwyaeth Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol i symud ymlaen |
2 |
Cymeradwyaeth y Brifysgol (Cam Archwilio Manwl a Datblygu) |
Llofnodi a Chyfnewid Memorandwm o Gytundeb |
3 |
Cam Ôl-Gymeradwyaeth (Cam Sefydlu a Datblygu Gweithredol) |
Cwrs yn dechrau |
Mae'r holl waith papur perthnasol ar gyfer sefydlu Partneriaeth, gan gynnwys cymeradwyaeth a chytundebau, i'w cael yn y dogfennau canlynol:
Nodiadau cyfarwyddyd: |
Templedi: |
||
APG_1 |
Cyfarwyddyd ynglŷn â Chymeradwyo |
APT_1 |
Templed Adroddiad Cymeradwyo'r Panel |
APG_2 |
Cyfarwyddyd ynglŷn â'r Arolwg Diwydrwydd Dyladwy Cychwynnol |
|
|
Ffurflenni: |
Siartiau llif: |
||
APF_0 |
Holiadur Darpar Bartneriaethau |
APC_1 |
Siart Llif Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth |
APF_1 |
Ffurflen gais Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth |
APC_2 |
Siart Llif Cytundebau Isel-Canolig eu Risg f3 |
APF_2a |
Ffurflen gais yn cynnwys Mapio ar gyfer Cydweddu |
APC_2a |
Siart Llif cymeradwyo prosiectau risg Isel |
APF_2b |
Ffurflen gais Memorandwm Cytundeb |
APC_2b |
Siart Llif Cytundebau Risg Canolig f2 |
APF_3a |
Ffurflen Arolwg Cychwynnol Diwydrwydd Dyladwy |
APC_3 |
Siart Llif Cytundebau Risg Uchel f3 |
APF_3b |
Ffurflen Diwydrwydd Dyladwy Risg Uchel |
APC_3a |
Siart llif ar gyfer Cytundebau Risg Uchel f4 |
APF_4 |
Dogfennau Angenrheidiol gan y Partner ar gyfer Diwydrwydd Dyladwy Risg Uchel |
|
|
APF_5a |
Adroddiad Cryno Asesiad Risg partneriaethau Risg Uchel |
|
|
APF_5b |
Taenlen Templed Asesu Risg |
|
|
|
|
|
|