2.13 Panel Cymeradwyo Cynlluniau: dyddiadau a dyddiadau cau ar gyfer papurau

Bydd Panel Cymeradwyo Cynlluniau yn cael ei gynnull i ystyried cynnig pan fydd wedi cael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio i symud ymlaen i gam nesaf y broses gymeradwyo. Bydd angen cyflwyno papurau i’w hystyried gan y Panel bythefnos fan bellaf cyn cyfarfod y Panel. Cysylltwch â’r Tîm Sicrhau Ansawdd i gael rhagor o arweiniad ar amseriad cynnull paneli cymeradwyo.