4.20 Rheolau Dyfarnu ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Raddedigion

1. Er mwyn pasio’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion rhaid i fyfyriwr:

(i) Ennill marciau o 40% neu'n uwch ym mhob un o'r 60 credyd o fodiwlau a astudiwyd ar Lefel 6

(ii) Ennill marciau o 50% neu'n uwch ym mhob un o'r 60 credyd o fodiwlau a astudiwyd ar Lefel 7

(iii) Bodloni’r gofynion presenoldeb mewn sesiynau dysgu yn yr Ysgol Addysg

(iv) Bodloni’r gofynion presenoldeb ar leoliadau ymarfer proffesiynol

(v) Dangos eu bod wedi cyflawni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gan athrawon sydd newydd gymhwyso yn ôl Cyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Cywiro Methiant

2. Gall myfyrwyr sy'n ailsefyll modiwlau a fethwyd wneud hynny ar ddau achlysur am uchafswm o 40% ar gyfer modiwlau lefel 6 a 50% ar gyfer modiwlau lefel 7 (ac eithrio pan fydd amgylchiadau arbennig wedi'u derbyn). Bernir bod gwaith nas cyflwynwyd wedi methu a gellir ei ailsefyll ddwywaith ar gyfer y marc a gapiwyd ar gyfer y modiwl.

3. Fel rheol caniateir UN cyfle yn unig i fyfyrwyr ailsefyll modiwlau am farc llawn (gyda dangosydd H) ond RHAID bod amgylchiadau arbennig wedi cael eu hystyried a'u cymeradwyo gan y Brifysgol.

4. Bydd pob myfyriwr TAR yn cofrestru'n llawn-amser ar gyfer un sesiwn academaidd. Bydd ganddynt gyfnod o ddeuddeg mis arall i ailsefyll.

5. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad ydynt yn dangos eu bod wedi cyflawni’r Safonau Proffesiynol ar sail lleoliadau ymarfer proffesiynol gael eu hailarholi ar un achlysur yn unig, a hynny dim ond os oes ysgol addas ar gael.

6. Gall myfyrwyr dynnu'n ôl dros dro, ond mae disgwyl o hyd iddynt gwblhau’r cymhwyster o fewn dwy flynedd ar y mwyaf. Dan amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod arall o ddeuddeg mis.

7. Ni cheir unrhyw ddyfarniadau dros dro i fyfyrwyr sy'n methu â chwblhau'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion.

 

Adolygwyd: Gorffennaf 2021