4.17.1 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS mis Medi 2013
1. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs, rhaid i’r myfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 50% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r cyfanswm o 180 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
2. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Theilyngdod, rhaid i’r myfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 60% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r modiwlau a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
3. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Rhagoriaeth, rhaid i fyfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 70% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r modiwlau a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
4. I fod yn gymwys i gael Diploma Uwchraddedig, rhaid i fyfyriwr nad yw wedi cwblhau’r traethawd estynedig neu brosiect cyfatebol gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 50% o leiaf dros y 120 o gredydau drwy gwrs
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 100 credyd.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60 – 69% yn gymwys i gael Teilyngdod.
5. I fod yn gymwys i gael Tystysgrif Uwchraddedig, rhaid i fyfyriwr sy’n gadael ar ôl cwblhau 60 credyd gael:
(i) cyfartaledd wedi’i bwysoli o 50% o leiaf dros y 60 credyd
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 40 credyd
(iii) cwblhau credyd ar Lefel 7 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn llwyddiannus (AU Lefel M gynt).
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60 – 69% yn gymwys i gael Teilyngdod.
6. Bydd myfyriwr sydd wedi cwblhau 180 credyd ond nad yw wedi bodloni’r gofynion i gael Gradd Meistr yn gymwys i gael Diploma neu Dystysgrif Uwchraddedig os yw:
(i) wedi cwblhau 100 credyd gan gael marciau o 50% neu fwy (Diploma)
(ii) wedi cwblhau 40 credyd gan gael marciau o 50% neu fwy a bod y credydau a gwblhawyd yn llwyddiannus yn rhai ar Lefel 7 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (AU Lefel M gynt (Tystysgrif)).
Ni fydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r 180 credyd i gyd yn gymwys i gael Teilyngdod neu Ragoriaeth os nad ydynt yn gymwys i gael gradd Meistr ond eu bod yn gymwys i gael dyfarniad canolradd, sef Tystysgrif neu Ddiploma.
Cywiro methiant
7. Caiff myfyrwyr sy’n ailsefyll modiwlau a fethwyd wneud hynny unwaith i gael marc uchaf o 50% (ac eithrio pan fydd amgylchiadau arbennig wedi’u derbyn).
Trothwy
8. Pan fydd myfyrwyr wedi cwblhau 180 credyd, ac wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig, gall y Byrddau Arholi ddyfarnu gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth i’r rheini y mae eu cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli hyd at 2% islaw’r ffin, a phan fydd gofynion eraill wedi’u bodloni, sef:
Gellir ystyried rhoi gradd LLWYDDO i rai â chyfartaledd o 47.5 – 49.4%
Gellir ystyried rhoi gradd TEILYNGDOD i rai â chyfartaledd o 57.5 – 59.4%
Gellir ystyried rhoi gradd RHAGORIAETH i rai â chyfartaledd o 67.5 – 69.4%
9. Pan fydd yn gwneud argymhellion o’r fath o fewn y trothwy o 2%, rhaid i’r Bwrdd Arholi fod yn fodlon y byddai’r myfyriwr wedi cyrraedd y safon ofynnol pe na bai’r amgylchiadau arbennig wedi effeithio’n andwyol ar ei berfformiad.