10.4 Llwybrau Ymgeisio

1. Daw mwyafrif helaeth y ceisiadau oddi wrth israddedigion i law ar-lein drwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Mae manylion llawn ynghylch proses ymgeisio ar-lein ‘UCAS Apply’ ar gael yn www.ucas.com/apply

2. Er yr argymhellir bod ymgeiswyr yn gwneud cais drwy UCAS lle y bo hynny’n bosib, mae llwybr ymgeisio uniongyrchol hefyd ar gael. Noder y dylai’r llwybr hwn gael ei ddefnyddio gan ymgeiswyr: a) sy’n gwneud cais i Brifysgol Aberystwyth yn unig, ac nid i fwy nag un darparwr addysg uwch neu b) ymgeiswyr sy’n gwneud cais am unrhyw ddarpariaeth sydd â dyddiad cychwyn ansafonol). Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn aelod o sefydliad aelodaeth Common Application, a gall ymgeiswyr o’r UD wneud cais drwy hwn.