10.6 Gofynion Mynediad

1. Mae gan y Brifysgol bolisi derbyn cynhwysol sy’n rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudiaethau blaenorol. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu rhinweddau unigol, a gall cynigion amrywio.

2. Bob hydref, gwahoddir Adrannau Academaidd, drwy ymgynghori â’r Swyddfa Derbyn a’r Adran Gynllunio, i gyflwyno manylion eu gofynion mynediad arfaethedig i israddedigion ar gyfer y cylch ymgeisio nesaf. Cesglir y wybodaeth hon gan y Swyddfa Derbyn ar ffurf strategaeth gwneud cynigion, a gyflwynir i’r Bwrdd Marchnata a Denu a Derbyn Myfyrwyr ac a anfonir at Weithrediaeth y Brifysgol i’w chymeradwyo.

3. Cyhoeddir lefelau cymeradwy’r cynigion ar wefan y Brifysgol, ar UCAS.com ac yn y prosbectws israddedig.

4. Bydd y Swyddfa Derbyn yn rhoi gwybod i Diwtoriaid Derbyn ynghylch newidiadau allanol i’r cwricwlwm a/neu ddiwygio cymwysterau a allai effeithio ar wneud cynigion yn y dyfodol.

5. Dylid anfon ymholiadau ynghylch gofynion mynediad y Brifysgol i ug-admissions@aber.ac.uk